Roedd siom i dîm criced Morgannwg ar yr Oval heno (nos Lun, Mehefin 14), wrth iddyn nhw golli o bum wiced mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.
Roedden nhw’n cwrso 167 i ennill, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod yn gyfforddus gyda deg pelen yn weddill, yn dilyn cyfraniadau o 64 gan Jason Roy wrth agor y batio, 39 gan Laurie Evans a 35 gan Jamie Smith.
Ac eithrio Marnus Labuschagne, oedd wedi cipio dwy wiced am 31 ar ôl taro 74 gyda’r bat, doedd bowlwyr Morgannwg ddim ar eu gorau ar y noson ac roedd maesu llac yn gostus ar adegau.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Surrey yn dal yn ddi-guro yn y gystadleuaeth, tra bod Morgannwg wedi ennill dwy a cholli dwy hyd yn hyn.
Cyfnod clatsio cadarn
Ar ôl galw’n gywir, penderfynodd Surrey wahodd Morgannwg i fatio ac fe wnaeth eu tactegau o agor gyda dau droellwr dalu ar ei ganfed wrth i Will Jacks a Dan Moriarty gadw pethau’n dynn yn y tair pelawd gyntaf.
Unwaith wnaethon nhw droi at fowliwr cyflym, Matt Dunn, fe wnaeth Nick Selman fanteisio wrth daro dau bedwar a dau chwech oddi ar bedwaredd pelawd y batiad.
Ond collon nhw eu wiced gyntaf yn y belawd ganlynol, wrth i David Lloyd gael ei ddal gan Jamie Overton wrth yrru Sam Curran ar ochr y goes, a Morgannwg yn 55 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio.
Cafodd Labuschagne ei ollwng yn y seithfed pelawd gan Tom Curran oddi ar ei fowlio’i hun ond collodd Nick Selman ei wiced yn y belawd ganlynol wrth gael ei ddal gan Jason Roy yn y cyfar oddi ar fowlio Moriarty, y troellwr llaw chwith, am 43.
Ddwy belawd yn ddiweddarach, fe wnaeth ymgyrch siomedig Colin Ingram barhau wrth iddo fe gael ei ddal gan Overton yn ceisio tynnu Moriarty at y ffin.
Roedden nhw’n 104 pan gollon nhw eu pedwaredd wiced yn y bedwaredd pelawd ar ddeg, wrth i Chris Cooke gael ei ddal gan Jordan Clark yn ceisio tynnu Moriarty at y ffin, a’r bowliwr yn gorffen gyda thair wiced am 26.
Cyrhaeddodd Labuschagne ei hanner canred oddi ar 40 o belenni yn yr unfed belawd ar bymtheg ond cafodd Kiran Carlson ei redeg allan yn gelfydd o’r ffin trydydd dyn am 23 gyda chwip o dafliad gan Tom Curran.
Ei frawd Tom Curran oedd yn bowlio’r belawd olaf ond un pan gafodd Dan Douthwaite ei ddal gan Roy yn y cyfar heb sgorio.
Collodd Morgannwg ddwy wiced yn y belawd olaf, gyda Labuschagne yn cael ei ddal gan Sam Curran yn y cyfar oddi ar fowlio Clark, a James Weighell, yn ei gêm ugain pelawd gyntaf, yn cael ei redeg allan oddi ar y belen olaf.
Cwrso’n gyfforddus
Gyda nod o 167, daeth Jason Roy, batiwr rhyngwladol Lloegr, i’r llain yn benderfynol o ymosod o’r belen gyntaf.
Yn dilyn cyfres o ergydion at y ffin, roedd Surrey eisoes yn 56 heb golli wiced ar ôl pum pelawd ac ymhell y tu hwnt i’r gyfradd sgorio angenrheidiol.
Ond fe gipiodd Morgannwg wiced cyn diwedd y cyfnod clatsio, wrth i Will Jacks gael ei ddal gan David Lloyd oddi ar fowlio Dan Douthwaite, cyn i Roy gyrraedd ei hanner canred yn niwedd y cyfnod clatsio oddi ar 28 o belenni, a’r sgôr yn 61 am un.
Os oedd Morgannwg yn gobeithio tawelu’r batwyr gyda wiced, fe gawson nhw eu siomi wrth i Laurie Evans gamu i’r llain a dechrau ymosod mor gadarn â’i bartner.
Roedden nhw eisoes ar 88 yn y nawfed pelawd pan gafodd Roy ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Lloyd oddi ar fowlio Labuschagne, cyn i Sam Curran gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Andrew Salter yn y belawd ganlynol.
Cipiodd Morgannwg drydedd wiced mewn tair pelawd pn gafodd Jamie Overton ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Labuschagne, a’r sgôr erbyn hynny’n 101 am bedair, gyda Morgannwg yn dal yn y gêm.
Ond ar ôl i Labuschagne a Salter fowlio’u pedair pelawd yr un, daeth gwaith Surrey ychydig yn haws eto wrth wynebu’r bowlwyr cyflymaf.
Cafodd Morgannwg beth llwyddiant eto wrth droi’n ôl at y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, gyda hwnnw’n annog Evans i yrru at Weighell ar yr ochr agored am 39.
Erbyn hynny, roedd Surrey yn 139 am bump, gyda Jamie Smith, batiwr 20 oed yn dod i’r llain ac fe wnaeth hwnnw sicrhau bod ei dîm yn cyrraedd y nod gyda hen ddigon o belenni’n weddill.
Bydd Morgannwg yn croesawu Caint i Gaerdydd ar gyfer eu gêm nesaf nos Fercher (Mehefin 16), gyda’r belen gyntaf am 5 o’r gloch – ychydig yn gynt na’r arfer gan nad yw’r llifoleuadau’n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.