Mae Sam Vokes, oedd yn aelod o garfan bêl-droed Cymru yn yr Ewros yn Ffrainc bum mlynedd yn ôl, yn dweud y bydd David Brooks a Kieffer Moore yn allweddol i obeithion y tîm cenedlaethol y tro hwn.
Bydd Cymru’n cymryd cam sylweddol ymlaen yn y gystadleuaeth brynhawn yfory (dydd Mercher, Mehefin 16) os gallan nhw guro Twrci yn Baku (4.15yp).
Daw hyn ar ôl iddyn nhw orffen yn gyfartal 1-1 yn eu gêm gyntaf ym mhrifddinas Azerbaijan.
Dim ond chwarter awr o’r gêm gyntaf yn erbyn y Swistir chwaraeodd Brooks, a hynny ar ôl i’r rheolwr dros dro Robert Page wneud y penderfyniad annisgwyl i dynnu Dan James oddi ar y cae, a hwnnw wedi disgleirio.
Ond mae Vokes, sgoriwr gôl yn erbyn Gwlad Belg yn ystod haf euraid diwethaf Cymru, yn credu y gall Brooks wneud cyfraniad mwy sylweddol cyn diwedd y twrnament.
“Mae David Brooks yn chwaraewr sydd wir yn sefyll allan i fi,” meddai.
“Dw i’n credu y gall e ddangos yn y twrnament yma pa mor ddawnus yw e os yw e’n aros yn ffit.
“Roedd hi’n bwysig ein bod ni’n dechrau’n dda ac rydyn ni wedi gwneud hynny gyda’r gêm gyfartal yn erbyn y Swistir.
“Gallwn ni adeiladu ar hynny nawr gyda’r ddwy gêm hyn [bydd y gêm olaf yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ddydd Sul, Mehefin 20].
“Mae gyda ni dîm cyffrous iawn, yn enwedig pan fo Cymru’n symud ymlaen, fel y gallwn ni obeithio ar gyfer y ddwy gêm grŵp hyn sy’n weddill.
“Gall David Brooks fod yn rhan fawr o hynny.”
Kieffer Moore
Yn ôl Sam Vokes, mae angen i Kieffer Moore ddechrau’r ddwy gêm sy’n weddill fel bod y chwaraewyr eraill yn gallu perfformio ar eu gorau hefyd.
“Dw i ychydig yn rhagfarnllyd pan ddaw i siarad am yr angen am ddyn mawr yn y blaen, felly dw i’n edmygwr mawr o Moore,” meddai.
“Byddwn i bob amser yn mynd am rif 9 oherwydd dyna’r ffordd mae Cymru wedi chwarae’n draddodiadol.
“Mae’r math yna o chwaraewr bob amser yn fygythiad i ni.
“Mae Kieffer yn ein cael ni i fyny’r cae ac yn galluogi chwaraewyr eraill i gael eu tynnu i mewn i’r gêm, fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey.”
Bydd y gêm yn fyw ar S4C.