Mae capten tîm pêl-droed Twrci yn dweud bod ei dîm yn “fregus” ar ôl colli eu gêm gyntaf o 3-0 yn erbyn yr Eidal yn yr Ewros.
Daw’r cyfaddefiad ddiwrnod cyn i Gymru herio Twrci yn Baku wrth iddyn nhw geisio adeiladu ar y gêm gyfartal 1-1 gawson nhw yn eu gêm gyntaf yn erbyn y Swistir.
Roedd rhai yn darogan cyn dechrau’r twrnament y gallai Twrci achosi cryn sioc.
“Yn y ddau ddiwrnod ar ôl y gêm, roedden ni’n fregus ac wedi torri,” meddai’r ymosodwr Burak Yilmaz.
“Roedd yn ddechrau nad oedden ni ei eisiau, fe gawson ni gyfarfodydd gyda’r hyfforddwr ac fe wnaeth e ein cefnogi ni.
“Ar ôl i Gymru a’r Swistir chwarae a chael gêm gyfartal, dechreuon ni deimlo’n well ac yn ôl i’r arfer.
“Roedden ni’n flinedig iawn ac yn negyddol ar ôl y gêm yn erbyn yr Eidal, ond rydyn ni’n dal yn y grŵp ac mae gyda ni’r nod a’r hyder [i gymhwyso].
“Doedden ni ddim yn disgwyl y canlyniad cyntaf hwnnw, ond nawr byddwn ni’n dangos pwy ydyn ni a’n cymeriad ni.
“Mae’r fformiwla’n glir, cael y chwe phwynt a byddwn ni’n cymhwyso o’r grŵp hwn.”
‘Trigolion Azerbaijan yw ein ffrindiau’
Mae cryn sôn fod disgwyl i’r dorf o fwy na 30,000 yn y stadiwm Baku gefnogi Twrci gan eu bod nhw’n un o gymdogion Azerbaijan.
Mae gan y ddwy wlad gysylltiadau diplomyddol, diwylliannol ac economaidd agos, ac mae Recep Tayyip Erdogan, Arlywydd Twrci, wedi dweud y bydd e yn Baku ar gyfer y gêm.
“Hoffwn estyn fy niolch i drigolion Azerbaijan,” meddai Burak Yilmaz.
“Nhw yw ein ffrindiau ni, nhw yw ein brodyr ni.
“Y diwrnod cyntaf daethon ni yma, roedden nhw wedi gwneud i ni deimlo fel hyn.
“Yn yr Eidal, gallech chi ddweud mai gêm oddi cartref oedd hi, o fynedfa’r stadiwm i’r allanfa.
“Ond mae hon yn ddinas gartref i ni oherwydd fod pobol Azerbaijan gyda ni.”
Gêm Cymru fel “rownd derfynol”
Yn y cyfamser, mae Senol Gunes, rheolwr Twrci, yn disgrifio’r gêm yn erbyn Cymru fel “rownd derfynol” yn y twrnament.
“Roedd yr Eidal yn well tîm na ni ac fe wnaethon ni dderbyn yr oruchafiaeth honno,” meddai.
“Yn y grŵp, rydyn ni y tu ôl i’r holl dimau yn nhermau detholion FIFA, ond yr un sydd agosaf atom yw Cymru.
“Mae’n dîm da wnaeth ddangos ei safon yn 2016.
“Mae ganddo athroniaeth dda o amddiffyn ac mae’n defnyddio’r bêl hir a’r esgyll mewn ffordd dda iawn.
“Dw i’n credu ein bod ni’n agos atyn nhw a bod y gêm yn erbyn Cymru’n rownd derfynol i ni.
“Mae’r gêm yn erbyn y Swistir hefyd yn gêm derfynol i ni.
“Bydd pedwar neu chwe phwynt yn y ddwy gêm nesa’n newid ein trywydd ni.”