Mae Gareth Bale yn dweud y bydd cefnogaeth y dorf yn Baku i dîm pêl-droed Twrci yn sbarduno’r Cymry yn eu hail gêm yn yr Ewros.
Mae disgwyl i 34,000 o gefnogwyr heidio i’r stadiwm yn Baku, ac i’r rhan fwyaf ohonyn nhw gefnogi Twrci, un o gymdogion Azerbaijan.
O ganlyniad, mae nifer yn darogan y bydd hon fel gêm gartref i Dwrci, fydd yn awyddus i daro’n ôl ar ôl colli eu gêm gyntaf yn erbyn yr Eidal o 3-0.
Ymhlith y dorf fydd Reccep Tayyip Erdogan, Arlywydd Twrci.
Ychydig gannoedd yn unig o gefnogwyr Cymru fydd yno.
‘Ychydig o normalrwydd’
Ar ôl blwyddyn a mwy o chwarae mewn caeau heb dorfeydd, mae capten Cymru’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at y profiad o gael chwarae gerbron torf eto.
“Dw i’n credu ei bod hi’n dda cael chwarae o flaen torfeydd mawr,” meddai Gareth Bale.
“Bydd hi’n braf cael yr awyrgylch yn y stadiwm a chael rhywfaint o normalrwydd yn ôl.
“Yn amlwg, byddai’n well gyda ni fod yn chwarae gerbron 34,000 o gefnogwyr Cymru, ond dydy hi ddim am fod felly.
“Os rhywbeth, mae’n ein sbarduno ni i fod ychydig yn fwy didrugaredd ar y cae, a gobeithio y gallwn ni eu cadw nhw’n dawel.”
‘Awyrgylch anhygoel’
Mae Gareth Bale wedi cael y profiad o chwarae yn Nhwrci gyda Real Madrid, ac mae’n dweud ei fod e’n disgwyl awyrgylch “anhygoel” yn Baku.
“Byddwn ni’n teimlo fel y tîm oddi cartref mewn stadiwm oddi cartref ac rydych chi’n gwybod y byddwch chi’n cael eich sarhau mwy,” meddai.
“Ond rydyn ni i gyd fel pêl-droedwyr wedi ymdopi â hynny yn y gorffennol, mae’n normal, ac rydych chi’n ei fwynhau e.
“Rydych chi’n bwydo oddi ar yr awyrgylch.
“Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn dweud pethau gwych ond am wn i, rydych chi am eu tawelu nhw.
“Mae’n eich ysgogi chi ychydig yn fwy os oes angen rhagor arnon ni.
“Dyna’r awyrgylch rydyn ni’n ei fwynhau fwyaf, a dyna sy’n gwneud pêl-droed mor dda.”
Gweithio fel tîm
Tra bod Gareth Bale yn debygol o gael cryn dipyn o sylw, mae’n mynnu bod rhaid i’r tîm berfformio’n dda, ac nid fel unigolion yn unig.
“Wrth gwrs fod gyda fi’r profiad o chwarae mewn gemau mawr a gemau atgas,” meddai.
“Ond nid fi’n camu i fyny [sy’n bwysig], ond y tîm yn camu i fyny.
“Mae pawb yn dweud o hyd ac o hyd am berfformiadau unigol – hyn a’r llall am unigolion, pwy sy’n sgorio a phwy sy’n gwneud beth.
“Ond y peth pwysicaf yw ein bod ni’n gweithio’n galed gyda’n gilydd fel tîm, yn ymosod ac yn cyflawni gyda’n gilydd.
“Dw i wedi dweud drwy gydol fy ngyrfa gyda Chymru, p’un a ydw i’n sgorio neu beidio, does dim ots pwy sy’n sgorio.
“Mae pawb yn canolbwyntio’n ormodol ar y peth perfformiad unigol yma pan na allwch chi wneud unrhyw beth heb eich cyd-chwaraewyr.
“Rydyn ni ond yn canolbwyntio ar wneud popeth gyda’n gilydd fel tîm.”