Bydd Cymru yn herio Twrci mewn gêm dyngedfennol yng ngrŵp A heddiw (dydd Mercher, 16 Mehefin), ac mae Rob Page yn gobeithio rhoi Cymru mewn “sefyllfa dda” i gymhwyso ar gyfer yr ail rownd.

Llwyddodd Cymru i sicrhau gêm gyfartal yn ei gêm agoriadol yn erbyn y Swistir, gyda Kieffer Moore yn penio i gefn y rhwyd i unioni’r sgôr gyda chwarter awr yn weddill.

Ond mae’n rhaid cyfaddef mai’r Swistir oedd y tîm gorau am gyfnodau helaeth o’r ornest.

Mae disgwyl i 34,000 o gefnogwyr heidio i’r Stadiwm Olympaidd yn Baku, ac i’r rhan fwyaf ohonyn nhw gefnogi Twrci, un o gymdogion Azerbaijan.

Ychydig gannoedd yn unig o gefnogwyr Cymru fydd yno.

O ganlyniad, mae nifer yn darogan y bydd hon fel gêm gartref i Dwrci, fydd yn awyddus i daro’n ôl ar ôl colli eu gêm gyntaf yn erbyn yr Eidal o 3-0.

Mae Gareth Bale yn dweud y bydd cefnogaeth y dorf yn Baku i dîm pêl-droed Twrci yn sbarduno’r Cymry.

Bydd y ddau dîm uchaf ym mhob un o chwe grŵp y gystadleuaeth, yn ogystal â’r pedwar tîm trydydd safle gorau, yn cymhwyso ar gyfer yr ail rownd.

Gyda Chymru’n teithio i Rufain i wynebu ffefrynnau Grŵp A, yr Eidal, ddydd Sul (20 Mehefin), gallan nhw leddfu’r pwysau arnynt, a chymryd cam mawr tuag at yr 16 olaf – pe bydden nhw’n curo Twrci.

Cymru gyda chynllun

Dywedodd rheolwr dros dro Cymru, Robert Page: “Dydyn ni ddim jyst wedi gwylio’r gêm yn erbyn yr Eidal, rydyn ni wedi gwylio’u gemau’n mynd yn ôl dros y misoedd diwethaf.

“Mae’r chwaraewyr wedi newid, ond rydyn ni’n chwarae yn erbyn tîm da iawn.

“Rydyn ni wedi nodi lle maen nhw’n dda ond mae gennym chwaraewyr sy’n gallu herio timau.

“Mae gennym gynllun rydyn ni eisiau cadw ato, un sy’n gallu achosi problemau i Dwrci yn ein barn ni.”

Wrth drafod sefyllfa Grŵp A cyn yr ail rownd o gemau, ychwanegodd Rob Page: “Mae’n debyg bod Twrci wedi edrych ar y gemau wrth ddod mewn i’r twrnament a gweld bod ganddyn nhw gêm agoriadol anodd iawn yn erbyn yr Eidal.

“Bydden nhw wedi edrych ar ein gêm ni a’i weld fel cyfle i gael triphwynt, ac rydyn ni’n gwbl barod am hynny.

“Ond byddwn ni’n mynd am y fuddugoliaeth ac os cewch chi bedwar pwynt o ddwy gêm mae’n ein rhoi ni mewn sefyllfa dda.”

“Cymryd pob gêm fel y daw”

Mae rheolwr Twrci Senol Gunes wedi disgrifio’r gêm yn erbyn Cymru fel “ffeinal” i’w dîm.

Fodd bynnag, nid yw Rob Page yn credu bod hon yn gêm y mae’n rhaid i Gymru ei hennill.

“Na. Mae gêm arall ar ôl. Rydyn ni’n cymryd pob gêm fel y daw,” meddai.

“Nid yw’n ymwneud â’r perfformiad yn unig. Mewn pêl-droed twrnament mae’n ymwneud weithiau â’r ffaith bod yn rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o ennill.

“Rydym wedi dangos y gallwn wneud hynny. Rydym wedi dangos gwydnwch.

“Rydym hefyd wedi nodi’r gêm hon fel un y gallwn wneud yn dda ynddi.

“Bydd hi’n gêm ddiddorol, ond nid yw’n mynd i fod yn hawdd.”

Newyddion tîm

Mae gan Gymru garfan gwbl holliach ar gyfer y gêm yn erbyn Twrci, fel yn erbyn y Swistir, er bod Aaron Ramsey a Gareth Bale yn edrych yn flinedig iawn erbyn diwedd y gêm honno.

Cafodd Kieffer Moore gerdyn melyn yn erbyn y Swistir, a byddai un arall yn golygu na fyddai ar gael ar gyfer gêm grŵp olaf yn erbyn yr Eidal.

Dywedodd Rob Page ei fod yn hapus gyda pherfformiad ei dîm ar ôl y gêm honno ond awgrymodd y gallai wneud newidiadau.

“Mae yno wastad feysydd o’r gêm rydyn ni eisiau gwella arnynt,” meddai.

“Rydyn ni’n farus fel pêl-droedwyr a hyfforddwyr, rydyn ni eisiau’r perfformiad perffaith..

“Rydyn ni wedi gweithio ar feysydd gwahanol y mae angen i ni wella arnynt.”

Mae gan Dwrci garfan cwbl ffit hefyd, gyda Senol Gunes yn cadarnhau bod Caglar Soyuncu, amddiffynnwr Caerlŷr, ar gael er iddo fethu hyfforddi ddydd Sul (13 Mehefin).

Gareth Bale

Gareth Bale yn disgwyl i’r dorf sbarduno Cymru wrth gefnogi Twrci yn Baku

Mae’r gêm yn debygol o fod yn debyg i gêm gartref i Dwrci ym mhrifddinas Azerbaijan yfory (dydd Mercher, Mehefin 16)
Kieffer Moore

Ewro 2020: Pwynt i Gymru yn erbyn y Swistir yn Baku

Gôl i Kieffer Moore yn yr ail hanner yn sicrhau pwynt yn Baku