Mae dau aelod o garfan bêl-droed Cymru wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n falch o gael cynrychioli eu cymunedau yn yr Ewros.
Nid oedd Harry Wilson o Gorwen na Neco Williams o Gefn Mawr ger Wrecsam wedi chwarae yn y gêm gyntaf yn erbyn y Swistir, ond maen nhw’n gobeithio chwarae eu rhan wrth i Gymru herio Twrci yn yr ail gêm yn Baku heno (nos Fercher, Mehefin 16).
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n barod i ad-dalu eu teuluoedd a’u cymunedau am eu cefnogaeth filoedd o filltiroedd i ffwrdd ’nôl adre’ yng Nghymru pe baen nhw’n cael y cyfle.
Cefnogaeth yn ‘golygu popeth’
Roedd balchder teulu Williams yn amlwg i bawb yn eu llythyr agored i’r wasg yr wythnos hon, lle’r oedden nhw’n sôn fod pentref cyfan Cefn Mawr y tu ôl i’r cefnwr chwith.
Yn ôl Williams, mae’r gefnogaeth honno’n “golygu popeth”.
“I fi, mi wnes i dyfu i fyny mewn pentre’ bach lle mae pawb yn ’nabod ei gilydd,” meddai.
“Felly bob tro dwi’n chwarae, dw i’n gwybod fod y pentre’ cyfan yno’n fy nghefnogi fi.
“Dwi’n gwybod, yn erbyn y Swistir, fod y rhan fwyaf ohonyn nhw efo’i gilydd, y pentre’ cyfan bron iawn, yn gwylio’r gêm yn fy nhafarn leol.
“A dwi’n gwybod os ydw i’n dod ymlaen neu hyd yn oed yn cychwyn gêm, y bydd o’n golygu popeth iddyn nhw, yn enwedig fy nheulu sydd wedi bod yno ers y diwrnod cyntaf.
“Maen nhw wedi mynd â fi ’nôl ac ymlaen i ymarfer ers blynyddoedd lawer.
“Dwi’n credu y basa hi’n eiliad falch iddyn nhw.”
Gogs v Hwntws
Dechreuodd taith Harry Wilson pan oedd e’n 14 neu’n 15 oed pan gafodd ei dreial cyntaf.
“Ro’n i efo hogia’r gogledd i fyny yn TNS ac mi ydech chi’n ymarfer am ychydig ddiwrnodau neu ambell sesiwn ac yn cael gêm yn erbyn hogia’r de,” meddai.
“Yna, rydech chi’n symud i fyny i’r Victory Shield dan 16, a dyna’r tro cynta’ i chi dynnu crys eich gwlad ymlaen.
“Mae hi’n fyw ar Sky, neu o leia’ mi oedd hi pan o’n i yno, ac mae hynny yn amlwg yn eiliad fawr oherwydd dyna’r tro cynta’ i lawer o’r hogia gael chwarae ar y teledu ac efo miliynau yn gwylio, rydech chi am wneud eich gwlad yn falch.
“Dyna’r cam cynta’ ac o’r fan honno, rydech chi’n symud i fyny’r grwpiau oedran i mewn i’r Ewros a thimau eraill, dan 19 a dan 21 ac os ydech chi’n lwcus, rydech chi’n cael chwarae i’r prif dîm hefyd.
“Mae bod trwy’r holl grwpiau oedran yn rhywbeth dw i’n falch iawn ohono fo.”
‘Mae o’n beth enfawr cael cynrychioli Corwen’
Dywedodd Wilson wedyn fod cael cynrychioli Corwen yn beth “enfawr”.
“Mae chwaraewyr yn y garfan sy’n dod o bob rhan o Gymru,” meddai’r chwaraewr wnaeth helpu ei dîm pêl-droed lleol adeg y llifogydd mawr ddwy flynedd yn ôl.
“I fi, mae o’n beth enfawr cael cynrychioli Corwen, tre’ fach yng ngogledd Cymru.
“Dwi’n ffodus o fod wedi cael y cyfle ac efo cefnogaeth fy nheulu o ’nghwmpas i – fy mam, fy nhad, nain a taid ar y ddwy ochr, ein teulu a’n ffrindiau i gyd.
“Roedd mynd â fi i Lerpwl bum neu chwe gwaith yr wsnos yn ymdrech enfawr a hoffwn i feddwl fod o’n talu ei ganfed rŵan.
“Bob tro dwi’n tynnu crys Cymru ymlaen, mae’n fraint enfawr ac yn anrhydedd ond mae balchder o hyd i mi o gael cynrychioli Corwen wrth wneud hynny.”
Cefnogaeth yng Nghymru
Pa mor ymwybodol yw’r garfan o’r gefnogaeth iddyn nhw ’nôl adre’ yng Nghymru, felly?
“Ryden ni’n siomedig iawn na allwn ni gael rhagor o gefnogwyr yma oherwydd ryden ni’n gwybod, pe bai’r byd yn normal yna mi fasa’r Wal Goch yma yn eu miloedd,” meddai Wilson wedyn.
“Er na fedrwn ni gael hynny, ryden ni’n gwybod am y gefnogaeth ryden ni’n ei chael adra’ – ryden ni’n cael fideos a lluniau gen yr holl gefnogwyr.
“Ryden ni’n gwybod am y gefnogaeth wych sydd gennon ni adra’ a phob tro ryden ni’n mynd ar y cae, ryden ni’n meddwl amdanyn nhw ac am eu gwneud nhw’n falch.”