Tri chynnig i Gymro medden nhw a sgoriodd arwr Cymru – Aaron Ramsey – ei drydedd cyfle gyda gôl penigamp ar ddiwedd hanner cyntaf tanllyd yn Baku.

Ond roedd yn rhaid aros tan y 90fed munud i weld Cymru yn selio eu buddugoliaeth haeddiannol gyda Connor Roberts yn sgorio yr ail gôl i’w gwneud hi yn 0-2 i Gymru.

Roedd Rambo wedi cael dau gyfle euraidd arall i sgorio mewn gêm lle roedd Cymru yn rheoli ac yn chwarae yn hyderus.

Daeth ei gyfle cyntaf ar ôl bron i chwe munud pan anelodd gyda’i droed dde ar ongl tynn a tharo’r postyn agosaf ond cafodd ei ymdrech ei arbed yn wych gan golwr Twrci Uğurcan Çakır.

Mewn gêm agored cafodd Cymru yn eu crysau melyn ddihangfa lwcus ar ôl i ymosodwr Twrci, y capten, Burak Yılmaz, fethu’r targed.

Wedyn cic sydyn gan Umut Meraş yn gyfle i golwr Cymru Danny Ward gynhesu ei ddwylo os oedd angen hynny – mewn tymheredd o 30 gradd yn y Stadiwm Olympaidd yn Baku – a hynny o flaen torf elyniaethus o 30,000 o gefnogwyr Twrci a 500 o Gymry.

Fe lawiodd yr amddiffynnwr Çağlar Söyüncü y bêl yn ddamweiniol yn y cwrt cosbi ond ni chafodd ei gosbi.

Aeth DJ – Daniel James – ar rediad gwych wedi 20 munud ond roedd Twrci yn lwcus na lwyddodd Kieffer Moore i’w gyrraedd.

Wedyn, ar ôl 23 munud, roedd gan Aaron Ramsey ddigon o amser i sgorio ond fe darodd ei ergyd yn galed at y gôl yn lle ei hanelu hi at y gornel.

 

 

Roedd anghrediniaeth ar ei wyneb ac ar wyneb pawb o’r dorf a’r cefnogwyr yn gwylio ledled y byd.

Cymru a reolodd yr hanner cyntaf.

Bu’n rhaid i Gareth Bale gael gair gyda’r canolwr am roi dwy gic gosb i Dwrci yn lle Cymru.

Gwnaeth Joe Allen ei waith gan ysgubo a chlirio yn dda.

Roedd amddiffyn da gan Gymru wrth i Bale, James a Ramsey ddod yn ôl i roi cymorth.

Gwastraff

Roedd Twrci yn rhedeg allan o syniadau.

Taclodd Söyüncü Bale pan oedd tri Cymro yn erbyn dau o Dwrci.

Roberts wedyn yn methu croesi i Dan James oedd ar ei ben ei hun. Cyfle arall yn wastraff.

Daeth Twrci a’u heilyddion gyda Yusuf Yazıcı ymlaen a hefyd Merih Demiral a sgoriodd i’w rwyd ei hun yn y gêm gollon nhw yn erbyn yr Eidal o 3-0.

Daeth cyfle i Moore ar ôl 47 munud ond roedd yn rhy araf i gyrraedd chwip o groesiad gan Dan James yr oedd yn rhaid i golwr Twrci ei gwthio allan am gic gornel.

Roedd Ramsey a Joe Morrell ymhobman gyda rhai o chwaraewr gorau Ewrop – Bale a Ramsey – yn dangos eu dealltwriaeth

Fe wnaeth Joe Rodon ennill y bêl sawl gwaith ac ergydiodd Bale â’i droed chwith ond ddim yn agos.

Arbediodd Ben Davies beniad am y gôl ar 53 o funudau.

Methodd Burak gyfle euraid i sgorio a chafodd y canolwr air gyda Ward a’i rybuddio i beidio gwastraffu amser gyda’i gicio.

Ar ôl 57 munud bu bron i Ramsey – seren tîm Cymru – sgorio eto ac roedd y golwr yn lwcus i’w harbed.

Yna, daeth cic o’r smotyn i Gymru ond fe wnaeth Bale ei methu a’i tharo hi yn uchel.

Cafodd Danny Ward gêm gampus yn delio gyda sawl peniad gan Dwrci a chwaraeodd Ben Davies yn arwrol yn y cefn yn ogystal â Rodon.

Clywyd cefnogwyr Cymru yn canu er gwaetha’ torf elyniaethus Twrci, gyda’u tîm yn ennill rhagor o beli yn yr ail hanner.

Cafodd Moore drwyn gwaed ar ôl i amddiffynwr Twrci, Çağlar Söyüncü, ei daro gyda’i benglin.

Daeth Ethan Ampadu ar y cae fel eilydd yn lle Joe Allen a Harry Wilson yn lle Aaron Ramsey. Cafodd Neco Williams ychydig o funudau gan gymeryd lle James.

Dangosodd Ramsey ei ymroddiad a’i angerdd gyda thacl wych yn yr amddiffyn tua diwedd y gêm.

Yna, yn yr 90fed munud fe ganfuodd Bale le ar yr asgell cyn i’r bêl ddod i Connor Roberts a’i phlanodd yn y rhwyd yn orfoleddus.

Ar ôl y gêm dywedodd Ben Davies, “Rwy’n teimlo ein bod ni yn haeddu honna.”