Bydd Jeremy Miles yn gofyn i Estyn gynnal adolygiad i achosion o aflonyddu a cham-drin rhywiol mewn ysgolion.

Bwriad yr adolygiad fydd edrych ar y diwylliant mewn ysgolion, a’r prosesau sy’n cael eu defnyddio i helpu i ddiogelu a chefnogi pobol ifanc.

Yn ôl Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, bydd yr adolygiad hwnnw’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi lleoliadau a llywio eu polisi.

Daw’r cam yn sgil tystiolaeth ar-lein gan ddisgyblion a myfyrwyr yn trafod eu profiadau yn dioddef o aflonyddu a cham-drin rhywiol, ac wedi i adroddiad gan Ofsted ddarganfod fod aflonyddu a cham-drin rhywiol yn rhan o fywydau dyddiol plant ysgol yn Lloegr.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad fod aflonyddu rhywiol wedi cael ei “normaleiddio” i bobol ifanc, mewn ysgolion, ar-lein, a llefydd fel parciau a phartïon.

Everyone’s Invited

Roedd gofyn i Ofsted gwblhau’r adolygiad wedi i filoedd o ddisgyblion a myfyrwyr drafod eu profiadau yn dioddef aflonyddu neu gam-drin rhywiol ar wefan Everyone’s Invited.

Mae’r dystiolaeth ar y wefan yn ddienw, ac yn cyfeirio at sefydliadau addysg y dioddefwyr yn unig, gyda phrofiadau wedi’u rhannu gan ddisgyblion a myfyrwyr o dros 90 o ysgolion Cymru.

Defnyddiodd Ofsted dystiolaeth oddi ar wefan Everyone’s Invited, a bydd Jeremy Miles yn mynd ati i ysgrifennu at yr ysgolion sy’n cael eu crybwyll ar y wefan.

Mae e’n cydnabod fod y broblem yn “annhebygol iawn” o fod yn gyfyngedig i’r ysgolion sy’n cael eu henwi yno, ond bydd Jeremy Miles yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar ddarparu addysg cydberthynas i’r ysgolion hyn.

Yn ogystal, bydd e’n cydweithio â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithas wrth ymateb i’r adroddiadau, gan wrando ar leisiau plant a phobol ifanc.

Bydd y Gweinidog hefyd yn gweld a oes gan sefydliadau arweinwyr penodol sy’n gyfrifol am gefnogi dysgwyr gydag addysg cydberthynas a rhywioldeb hefyd – rhywbeth y dylai fod gan pob ysgol ac Awdurdod Lleol, meddai.

“Annerbyniol”

“Mae adroddiadau diweddar o aflonyddu a cham-drin rhywiol mewn ysgolion yn peri pryder mawr imi,” meddai Jeremy Miles.

“Mae unrhyw fath o aflonyddu neu gam-drin rhywiol yn gwbl annerbyniol ac ni ddylid ei oddef.

“Mae gan bob lleoliad addysg ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu parchu a bod ganddynt fynediad at amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel.

“Mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth draws-lywodraethol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei gefnogi ac yn gallu rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt.”