Mae Plaid Cymru yn galw am “gynllunio tymor hir” ar gyfer y sector dwristiaeth yng Nghymru.

Yn ôl Luke Fletcher, llefarydd economi’r blaid yn y Senedd, bydd “diffyg grantiau ailgychwyn fel yn Lloegr a’r Alban” yn arwain at fusnesau’n defnyddio eu “cronfeydd wrth gefn sydd eisoes wedi’u gwanhau”.

Dywed nad yw costau megis fel ailstocio nwyddau a sicrhau bod safleoedd yn ddiogel rhag Covid-19 wedi’u cynnwys yn y mathau o grantiau ailgychwyn sydd ar gael yn yr Alban a Lloegr.

Mae hefyd yn dweud bod y bwlch yng nghyllid Cronfa Cadernid Economaidd rhwng misoedd Mawrth a Mai yn achosi trafferthion ychwanegol i fusnesau.

Grantiau

Mae Luke Fletcher yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn dangos ei “hymrwymiad hirdymor” i’r diwydiant drwy gyflwyno grantiau ailgychwyn.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi datgan eu nod o gynyddu twristiaeth a chefnogi lletygarwch yng Nghymru, ond nid ydynt wedi cefnogi hynny gyda’r math o gymorth sydd ar gael yn yr Alban a Lloegr – sef ailgychwyn grantiau,” meddai.

“Cyn y pandemig, roedd llawer o’r lleoliadau hyn yn rhoi cymorth i’w cymunedau lleol – megis darparu prydau bwyd i weithwyr iechyd, neu roi cymorth i aelodau ynysig o’r gymuned – ac maen nhw angen cymorth y Llywodraeth nawr.

“Nid yw’n ymwneud â’r arian yn unig – mae angen y math o weithredu arnom sy’n dangos ymrwymiad hirdymor y Llywodraeth i’r diwydiant pwysig hwn.

“Pe bai’r llywodraeth wir yn gwrando ar y sector, byddent yn gwybod fod llawer o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn pryderu am eu dyfodol, hyd yn oed nawr, ar ddechrau’r tymor ymwelwyr.”