Mae Cancer Research UK wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth sy’n annog pobol i gysylltu â’u meddyg teulu os ydyn nhw’n sylwi ar symptomau canser.

Daw hyn wrth i ffigurau newydd ddangos nad oedd mwy na 40% o bobol yng Nghymru a brofodd symptomau canser posibl yn ystod ton gynta’r pandemig Covid-19 wedi cysylltu â’u meddyg teulu.

Canfu’r ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Cancer Research UK mai’r rhesymau mwyaf cyffredin dros beidio â cheisio cymorth oedd poeni am wastraffu amser y gweithiwr iechyd proffesiynol (26%) a phoeni am roi straen ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd (20%).

Roedd 16.9% yn ei chael hi’n anodd cael apwyntiad gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arbenigol, tra bod 15.7% ddim eisiau cael eu hystyried yn bobol sy’n gwneud ffwdan.

Mae ffigurau diweddar Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos bod 20,000 yn llai o bobol wedi cael eu harallgyfeirio ar frys i gael diagnosis canser posibl rhwng mis Mawrth a Thachwedd 2020.

Mae’r ymgyrch ‘Peidiwch â’i Anwybyddu’ yn annog pobol i gysylltu â’u meddyg os ydyn nhw’n poeni am eu hiechyd.

‘Daliwch ati’

“Mae’n bwysig bod pobol sydd wedi sylwi ar unrhyw newidiadau anarferol neu barhaus yn gwybod bod eu meddyg eisiau clywed ganddynt ac yn gallu eu gweld yn ddiogel,” meddai Michelle Mitchell.

“Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd yn ganser, ond mae’n well ei wirio oherwydd mae gwneud diagnosis o ganser yn gynharach yn golygu bod triniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus.

“Yn ystod ton gyntaf y pandemig, ni ofynnodd llawer o bobl yng Nghymru am gymorth oherwydd nad oeddent am ychwanegu at lwyth gwaith y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac roeddent yn poeni am wastraffu amser eu meddyg, ond mae’n bwysig nad yw pobol yn oedi cyn cysylltu â’u meddyg teulu oherwydd gall darganfod canser yn gynnar wneud byd o wahaniaeth.

“Rydym wedi clywed adroddiadau am bobol yn ei chael hi’n anodd cael drwodd i’w practis meddyg teulu i sicrhau apwyntiad a all fod yn rhwystredig, ond daliwch ati.”

“Peidiwch â’i anwybyddu”

Cafodd Paul Evans o Aberdaron ddiagnosis o ganser yn 2018 ac mae’n cyfaddef y byddai wedi “aros i’w symptomau fynd i ffwrdd ar eu pennau eu hunain” oni bai am sylwi ar hysbyseb deledu a’i deulu yn dweud wrtho am weld meddyg teulu.

Yn 49 oed ar y pryd, cychwynnodd symptomau Paul fel peswch parhaus a oedd, yn ei farn ef, yn annwyd cyffredin.

Mae Paul, sy’n gyn-gwnstabl arbennig i Heddlu Gogledd Cymru, yn gobeithio y bydd ei stori yn annog pobl i ofyn am gyngor os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau sy’n achosi pryder, ac mae’n cefnogi ymgyrch ‘Peidiwch â’i Anwybyddu’ Cancer Research UK.

“Roeddwn i’n bendant y math o berson nad oedd yn hoffi gwneud ffwdan ac roeddwn i’n arfer meddwl y byddai fy symptomau’n diflannu ar eu pennau eu hunain,” meddai Paul.

“Pwy a ŵyr beth allai fod wedi digwydd pe na bawn i wedi gweld fy meddyg teulu? Rwy’n teimlo’n hynod ffodus bod fy nghanser wedi’i ddal yn gynnar.

“Dyna pam rwy’n cefnogi ymgyrch ‘Peidiwch â’i Anwybyddu’ Cancer Research UK. Os ydych chi’n poeni o gwbl, cysylltwch â’ch meddyg teulu – gallai arbed eich bywyd.”