Fe fydd pedwar llawysgrif sy’n taflu goleuni ar yr iaith Gernyweg a’r traddodiad o gynnal dramâu yn yr awyr agored yn yr Oesoedd Canol yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yr haf yma.
Bydd yr arddangosfa ‘Mes a’n Kemmyn’ (Anghyffredin) gan Kresen Kernow yn dod â’r Cornish Ordinalia a Gwreans an bys (The Creation of the World) ynghyd â Beunans Meriasek (Bywyd Meriasek) a Bewnans Ke (Bywyd Ke).
Mae’r ddwy gyntaf ar fenthyg o Lyfrgelloedd Bodleian ym Mhrifysgol Rhydychen a’r olaf ar fenthyg o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Bydd yr arddangosfa’n rhedeg rhwng Mehefin 22 a Medi 25, ac mae mynediad am ddim drwy archebu tocyn ymlaen llaw.
Hanes yr ysgrifau
Bwriad y llawysgrifau, sydd wedi’u hysgrifennu yn yr iaith Gernyweg, yw dysgu pobol am Gristnogaeth.
Maen nhw’n cynnwys straeon adnabyddus o’r Beibl a hanes y seintiau ac mae lle i gredu bod yr Ordinalia yn cynnwys y sgriptiau drama cyflawn cynharaf yn yr iaith Gernyweg, 200 mlynedd cyn William Shakespeare.
Mae’n bosib bod y llawysgrifau hefyd yn cynnwys y diagramau llwyfan cynharaf erioed yn unrhyw le yn y byd, ac mai nhw yw’r llawysgrifau cyflawn cynharaf yn yr iaith Gernyweg.
Fe fu’r llawysgrifau’n rhan o gasgliad Llyfrgelloedd Bodleian ers dros 400 mlynedd a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddychwelyd i Gernyw.
Cymru yw lleoliad Beunans Meriasek, a hynny yn y 1650au, a Bewnans Ke yw’r un a gafodd ei ddarganfod fwyaf diweddar, a hynny ymhlith academydd oedd newydd farw.
Grant gwerth £11.7m gan Gronfa Dreftadaeth y Loetri Genedlaethol sydd wedi talu am yr arddangosfa.
Agorodd Kresen Kernow, canolfan archifau Cernyw, ei drysau yn 2019.
‘Cyfle prin’
“Rwy’ wrth fy modd fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n medru cefnogi’r cyfle prin hwn y bu mawr edrych ymlaen ato i weld y llawysgrifau Cernyweg hanesyddol bwysig yn cael eu dwyn ynghyd a’u dathlu am y tro cyntaf o dan yr un to,” meddai Pedr ap Llwyd, prif weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
“Mae hi hefyd yn briodol y bydd hwn yn digwydd yng nghalon Cernyw hithau.
“Mae’r pedwar llawysgrif yn cynnig corff cyfoethog o lenyddiaeth Cernyweg Canol, a bydd yn adnewyddu ymwybyddiaeth o’r iaith ei hun a’r traddodiad theatr awyr agored cyfoethog yng Nghernyw nifer o ganrifoedd yn ôl.”