Mae Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi lein-yp ‘Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021’, a fydd yn cael ei chynnal fis i heddiw.
Bydd y Sesiwn Fawr yn ffrydio cerddoriaeth a sesiynau comedi a llên yn rhad ac am ddim ar blatfform digidol AM ddydd Sadwrn, Gorffennaf 17.
Fel rhan o’r arlwy, bydd Angharad Jenkins, sy’n aelod o’r grŵp gwerin Calan, yn cyflwyno rhaglen o sesiynau cerddorol sydd wedi’u ffilmio o flaen llaw.
Mae’r setiau wedi cael eu ffilmio mewn gwahanol leoliadau sy’n unigryw i’r ŵyl, ac yn cynnwys rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd y sîn yng Nghymru: Vrï, Glain Rhys, Beca, Derw, ac I Fight Lions.
Yn ogystal â cherddoriaeth, bydd sesiynau i blant, sgyrsiau llenyddol, a chomedi yn cael eu rhannu ar blatfform AM.
Bob blwyddyn, mae posteri Sesiwn Fawr yn rhan annatod o hanes yr ŵyl, gyda nifer o bosteri’r gorffennol yn cael eu hystyried fel darnau eiconig o waith celf.
Cafodd y poster ei ddylunio eleni gan yr artist Sioned Medi.
“Braf gwahodd” artistiaid ôl
“Roedd Pwyllgor y Sesiwn yn awyddus i gefnogi artistiaid Cymru ar ôl blwyddyn go segur, a chynnig digwyddiad i’n cefnogwyr triw,” meddai Guto Dafydd, cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau.
“Felly braf oedd medru gwahodd unigolion a bandiau yn ôl i Ddolgellau unwaith eto – nid am gigs byw am y tro, ond yn hytrach i recordio setiau byw llawn egni.
“Roedd y wên ar wynebau’r artistiaid yn dweud y cwbl yn dilyn gaeaf a chyfnod clo hir o fethu perfformio.
“Er nad oedd modd cynnig llwyfan a chynulleidfa iddynt, roedd cael perfformio yn amlwg yn cynnig gwefr iddynt. Mae’r amrywiaeth safleoedd ffilmio yn adlewyrchu’r Sesiwn Fawr draddodiadol.
“Y gobaith fydd denu gwylwyr o bell ac agos i fwynhau Sesiwn Fawr Digi-Dol.”
Y flwyddyn nesaf, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd modd dathlu 30 mlynedd o’r Sesiwn Fawr.
“Cefnogwch y Sesiwn a’i hartistiaid fel unrhyw flwyddyn arall, a gobeithiwn y bydd modd i ni drefnu a chynnal dathliad o 30 mlynedd o’r Sesiwn Fawr yn 2022,” meddai Guto Dafydd wedyn.