Mae cyfres newydd sbon o’r rhaglen ddychan Hyd y Pwrs yn gyfle i “drio rhywbeth ychydig yn wahanol” mewn comedi Cymraeg, yn ôl un o griw’r rhaglen

Er na fydd y gyfres, fydd yn “tynnu coes ambell i unigolyn” ar S4C a thu hwnt, yn apelio at ddant bawb, mae Aeron Pughe yn dweud ei bod hi’n amhosib gwneud comedi sy’n plesio pawb.

Yn y gyfres newydd, y bwriad yw i Aeron Pughe, Iwan John, a’u ffrindiau fynd ar ôl rhaglenni cyfoes.

Un o’r heriau sy’n dod gyda gwneud dychan Cymraeg yw’r ffaith fod pawb yn tueddu i fod yn adnabod pawb, meddai Aeron Pughe, ac mae e’n pwysleisio wrth golwg360 nad ydyn nhw am wneud sbort ar ben neb na phechu neb.

“Gatho ni gyfle i wneud peilot ryw bedair blynedd yn ôl, roedden ni wedi bod yn pwsio am drio rhywbeth hollol wahanol,” eglurodd Aeron Pughe wrth drafod ysbrydoliaeth y gyfres.

Hwyl

“Ar S4C, does yna ddim lot o gomedi. Roedden ni’n gwybod bod ni ddim yn mynd i allu gwneud C’mon Midffîld neu Nyth Cacwn neu rywbeth, felly fe wnaethon ni benderfynu gwneud rhywbeth hollol wahanol a mynd i dynnu coes ambell i unigolyn o’r sianel.

“A just chwarae efo syniadau. Doedd gennym ni ddim rili cynllun. Mae just wedi datblygu o hynny mewn ffordd.

“Roedd o’n hwyl. Dw i ddim yn credu bod dim byd arall efo system debyg i ni, achos efo’r gyfres gyntaf doedd gennym ni ddim sgript – just syniad a chanllaw.

Yn sgil cyfyngiadau Covid bu Aeron Pughe ac Iwan John yn sgriptio mwy o’r gyfres hon, a hynny dros Zoom, ond “aeth y sgript drwy’r ffenest yn syth” y daeth y criw at ei gilydd, meddai Aeron Pughe.

“Mae o wedi mynd i lefydd hollol wahanol i beth oeddwn i wedi’i ddisgwyl. So does yna ddim pwynt sgriptio pethau fel’ma!”

“Achos bod Rhys D. [Williams], cyfarwyddo a chamera, yn frawd i Iwan [John] roedd o fel criw o ffrindiau, mwy neu lai, yn cael diwrnod o wneud nonsens, a ffilmio fo, a gweld be fysa’n dod.

“Doedd yna ddim byd yn iawn neu anghywir, trio fo. Doedd yna neb yn beirniadu neb am ddweud peth gwahanol o un take i llall, wedyn roedd o’n broses wyrdd iawn.

“Lot o bethau ddim wedi gweithio, a fysa rhai’n dadlau bod yna ddim byd wedi gweithio!”

Marmite Cymraeg

“Mae o’n marmite Cymraeg go iawn, ddeuda i hynny,” esboniodd Aeron Pughe.

“Efo’r gyfres ddiwethaf, mae yna rai wedi beirniadu fo’n eithaf cryf, a rhai’n dweud eu bod nhw wedi joio fo’n fwy na dim byd arall.

“’Da ni ar y ffens go iawn. Os yda chi’n trio gwneud comedi i blesio pawb, newch chi byth.

“Yn enwedig efo un sianel Gymraeg, mae yna bobol oedrannus, mae yna blant, mae pawb yn licio pethau gwahanol.

“Moto fi ydi – ‘Os yda chi’n joio fo, joiwch fo. Os dyda chi ddim, trowch o i rywbeth arall am ryw hanner awr’.

“Mae yna elfen o risg, achos rydyn ni’n ’nabod y cymeriadau i gyd. Dw i’n ddigon ffodus yn gweithio yn y cyfryngau, dw i’n ‘nabod lot ohonyn nhw,” esboniodd.

“’Da ni ddim yn gwneud sbort am ben neb, ’da ni ddim yn pwysleisio lawer ar edrych yn debyg neu swnio’n debyg.

“’Da ni just yn mynd ar ôl rywbeth falle dydyn nhw ddim wedi’i ddweud dim ond unwaith erioed, neu just ryw catch bach stupid.

“Dydyn ni ddim yn mynd am y pethau amlwg, a thrio bod yn drylwyr yn y dynwarediad. Just ryw throw away ydi o, mae yna ambell un wedi bachu, mae yna gwpwl o catchphrases.

“’Da ni ddim isio pechu neb. Mae o just yn mynd â chymeriadau Cymraeg i lefydd mwy gwirion, a thrio peidio bod yn amharchus.”

‘Tywyll’

Mae comedi Cymraeg yn arbennig o bwysig ar y funud, meddai Aeron Pughe, ac mae’n “brin beth bynnag”.

“Yn anffodus”, mae yna lot o bobol allan yna sydd just yn aros am gomedi Cymraeg i gael mynd ar Twitter i ladd ar gyfresi, ychwanegodd.

“Dwyt ti ddim yn mynd i blesio pawb, ond mae’n bwysig fod pobol dal i drio.

“Dw i’n gwybod fod S4C Comedi, ac mae yna Hansh a phethau. Dw i’n gwylio y rheiny, a dw i’n cyfaddef dw i ddim yn ffan o bob un ohonyn nhw, ond fyswn i byth yn meddwl mynd i feirniadu nhw achos mae pawb yn licio pethau gwahanol.

“Mae hi’n bwysig iawn fod pawb yn trio, a ‘da ni wedi bod yn lwcus iawn o’r cyfle. Mae Elen Rhys (Comisiynydd Cynnwys S4C) wedi bod yn gefnogol i ni just bod yn wahanol,” ychwanegodd.

“Mae o’n eccentric, a dw i’n licio comedi bach yn stupid. Ac mae Iwan hefyd, Iwan ella’n fwy na fi, a Rhys. Maen nhw’n licio pethau reit dywyll a twisted, fysa rhai’n ei ddweud.

“Falle bod Cymru’n draddodiadol wedi bod yn eithaf cul, so mae’n neis ein bod ni’n cael cyfle i drio rhywbeth ‘chydig yn wahanol.

“Dydi pobol ddim yn mynd i’w ddeall o falle, rhai, rydyn ni’n cymryd risg ac rydyn ni’n cael lot o hwyl yn ei wneud o.”

‘Dros ben llestri’

“Dw i wedi bod yn gwneud dynwarediad o Alun Elidyr, a dw i’n credu mod i’n niwsho Alun fel ffynhonnell i gael rants fi allan am figans ac yn y blaen. Fel ffarmwr tlawd a balch dw i’n licio pwsio’r busnes amgylcheddol yma, a dw i’n ei wneud o mewn ffordd dros ben llestri trwy Alun Elidyr fel pregethwr amaethyddol.

“Dw i’n gwybod fod Alun ddim yn meindio, mae o wedi cysylltu’n dweud ei fod o’n joio so mae’n iawn.

“Dydyn ni ddim yn trio bod yn wleidyddol, achos does yna ddim pwynt. Ond os ydi o’n cyffwrdd ar rywbeth ein motto ni oedd ‘Mynd dros ben llestri, a gadael i’r golygyddion dynnu allan y pethau oedd ddim yn gwneud y cut’ yn hytrach na thrio golygu fo tra’n ffilmio.

“Os ti’n dechrau meddwl am be i’w roi mewn, ti’n cwympo’n fyr o le ti’n drio mynd dw i’n meddwl.

“Just go all out, a ti’n gobeithio bod ychydig ohono fo’n gweld dydd.”

Ychwanegodd Aeron Pughe ei fod am i bawb fwynhau’r rhaglen “am be ydi hi”, ac “os ydyn nhw wedi upsetio am rywbeth, i ffonio Iwan dim fi!”

  • Cyfres newydd o Hyd y Pwrs yn dechrau ar S4C ar nos Wener, Gorffennaf 2.