Mae BBC Radio Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Bwriad y wobr ydi dathlu’r gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd y rhestr fer ei gyhoeddi’n swyddogol ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru.

Mae disgwyl i ragor o wybodaeth gael ei gyhoeddi am y wobr yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bu panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff albymau cyn pleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Y beirniaid eleni yw Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce Deans.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod AmGen 2021, sy’n cael ei gynnal o 31 Gorffennaf – 7 Awst.

Yr albymau sydd wedi dod i’r brig eleni ydi:

  • Carw – Maske (Recordiau BLINC Records).
  • Mas – Carwyn Ellis & Rio 18 (Banana & Louie)
  • Cwtsh – Gyda’n Gilydd
  • Datblygu – Cwm Gwagle (Ankstmusik).
  • Elfed Saunders Jones – Gadewaist (Klep Dim Trep).
  • Jac Da Trippa – Kim Chong Hon (Recordiau Noddfa).
  • Mared – Y Drefn (Recordiau I KA CHING Records).
  • Mr – Feiral (Strangetown Records).
  • Mr Phormula – Tiwns (Recordiau Mr Phormula).
  • Tomos Williams – Cwmwl Tystion (Tŷ Cerdd).

“Er iddi fod yn flwyddyn anodd iawn i’r diwydiannau creadigol, mae safon yr albymau a ryddhawyd yn ystod y cyfnod o 31 Mai 2020 hyd at ddiwedd Mai eleni, yn arbennig o uchel, gyda chymysgedd amrywiol o gynnyrch ac artistiaid yn cyrraedd y rhestr fer,” meddai’r Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru mewn datganiad.