Bydd Oriel Môn yn Llangefni yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni trwy arddangos casgliad o weithiau celf.
Mae’r arddangosfa, ‘Eich Casgliad’ yn dweud stori dechrau’r Oriel a’r unigolion chwaraeodd rôl bwysig yn ei hanes.
Agorwyd Oriel Môn i’r cyhoedd ar y 25 Hydref, 1991, ac un o’r prif resymau dros gael oriel ac amgueddfa oedd rhoi cartref i gasgliad byd-enwog Charles Tunnicliffe.
“Trwy ddyfalbarhad parhaus edmygwyr o waith Tunnicliffe ac ymdrechion aelodau etholedig y Cyngor Bwrdeistref, ynghyd â chyllid o amrywiol ffynonellau, prynwyd yr holl gasgliad gan ystâd yr arlunydd cyn iddo gael ei werthu gan Christies yn Llundain ym Mai 1981,” meddai Ian Jones, Rheolwr Casgliadau ac Adeiladau, Oriel Môn.
Yn dilyn blynyddoedd o gynllunio mi’r oedd gan Ynys Môn ei horiel a’i hamgueddfa ei hun, wedi ei dylunio i arddangos celf ac eitemau yn ymwneud â’r ynys.
Mae’r arddangosfa ‘Eich Casgliad’ ymlaen o 3 Gorffennaf tan y 3 Hydref ac mae mynediad am ddim.
Mae pobol sydd eisiau mynychu yn cael eu hannog i archebu tocyn i’r arddangosfa ymlaen llaw gan fod capasiti ymwelwyr ar y safle wedi ei leihau.
Kyffin Williams
Arlunydd Cymreig adnabyddus arall oedd yn hynod gefnogol o sefydlu Oriel Môn oedd Kyffin Williams.
Yn 1990, cyn yr agoriad swyddogol, mi roddodd gasgliad o dros 300 o’i ddarluniau a darnau dyfrlliw yn anrheg i’r Oriel.
Yn 2008, agorwyd Oriel Kyffin Williams fel teyrnged iddo.
Bydd yr arddangosfa ‘Eich Casgliad’ yn Oriel Kyffin Williams.
Ynghyd â gweithiau gan Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe, bydd hefyd modd gweld gwaith gan Gwilym Pritchard, Wilf Roberts, Mary Lloyd Jones, Karel Lek, Gomer Lewis a Peter Prendergast.