Mae beirniaid ar gyfer gwobr celfyddyd gyfoes ryngwladol Artes Mundi 9, wedi penderfynu rhoi’r wobr i bob un o’r chwe artist ar y rhestr fer.

Bydd yr artistiaid Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA) yn derbyn £10,000 yr un.

Y beirniaid ar gyfer Artes Mundi 9 yw Cosmin Costinas, Cyfarwyddwr Gweithredol a Churadur Para Site, Hong Kong a Chyfarwyddwr Artistig Triennale Kathmandu 2020; Elvira Dyangani-Ose, Cyfarwyddwr oriel y Showroom yn Llundain a Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia.

Detholwyd y chwe artist ar y rhestr fer yn wreiddiol o blith dros 700 o enwebiadau o 90 o wledydd.

Mae gwaith pob un o’r chwe artist yn cael ei ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter tan 5 Medi 2021.

“Grymus”

Dywedodd aelodau’r rheithgor mewn datganiad: “Wrth fyfyrio ar 2020 i’r presennol, bu hwn yn gyfnod o gynnwrf cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd enfawr ac fel rheithgor, rydyn ni wedi cyrraedd penderfyniad unfrydol ar y ait  ddyfarnu Gwobr Artes Mundi 9 i bob un o’r chwe artist cyfranogol: Firelei Báez, Dineo Seshee Bopape, Meiro Koizumi, Beatriz Santiago Muñoz, Prabhakar Pachpute a Carrie Mae Weems.

“Rydyn ni wedi gwneud hyn mewn cydnabyddiaeth o’r cyd-destun y mae eu gwaith wedi’i gynhyrchu ynddo ac, yn bwysig, mewn cydnabyddiaeth o waith pob un yn unigol sydd y tu hwnt o deilwng ac sy’n arbennig ac yn bwerus o berthnasol heddiw.

“Gyda’i gilydd mae’r chwe chyflwyniad yn creu arddangosfa gydlynus ac amserol gan fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion a thestunau i’w hystyried.

“Ar ben hynny, wrth greu cyrff newydd ac uchelgeisiol Artes Mundi 9, mae pob artist wedi amlygu cryn gydnerthedd wrth oresgyn y rhwystrau lu’n fyd-eang y mae COVID-19 wedi’u hachosi.

“Ar y cyd, mae’r arddangosfa’n cyfleu eu lleisiau arbennig a grymus mewn ffyrdd sy’n gyfoethog, yn feddylgar ac yn werth chweil.”

‘Profiad gwerth chweil’

Ychwanegodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Fel cyfarwyddwr, ac ar ran tîm staff Artes Mundi a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, dw i’n diolch i aelodau’r rheithgor am eu holl waith gan gynnig llongyfarchiadau o waelod calon i Firelei, Dineo, Meiro, Prabhakar, Beatriz a Carrie.

“Profiad hynod werth chweil fu cydweithio dros y 18 mis diwethaf gan arwain at arddangosfa amserol a chyfoethog ac sydd, yn weledol ac yn gysyniadol, yn llawn dealltwriaeth a nerth.”