Mae Dominic Cummings, cyn brif ymgynghorydd Boris Johnson, wedi honni fod y Prif Weinidog wedi rhegi wrth ddisgrifio Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd.

Disgrifiodd Boris Johnson yr Ysgrifennydd Iechyd fel “hollol f****** anobeithiol” ar ddechrau pandemig y coronafeirws, yn ôl Dominic Cummings.

Cyhoeddodd gyfres o sgrin luniau yn dangos sgwrs WhatsApp rhyngddo ef a’r Prif Weinidog er mwyn taro yn ôl yn erbyn y “celwydd” sy’n dod o Rif 10 Stryd Downing, meddai.

Mewn un sgwrs ar Mawrth 3 y llynedd, tynnodd Dominic Cummings sylw at gynnydd cyflym yr Unol Daleithiau o ran capasiti profi a beirniadodd Matt Hancock am ddweud ei fod yn “amheus” ynglŷn â bodloni targed newydd yn y Deyrnas Unedig ar ôl dweud yn gynharach y byddai’n “bendant” yn cael ei gyflawni.

Mae’n debyg bod y Prif Weinidog wedi ymateb yn dweud: “Hollol f****** anobeithiol.”

Mewn neges ar wahân, roedd yn ymddangos bod y Prif Weinidog yn galw’r sefyllfa o ran Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn drychineb ac yn cyfeirio at ddargyfeirio rhai cyfrifoldebau i Weinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove.

“Alla i ddim meddwl am unrhyw beth heblaw tynnu Hancock i ffwrdd a rhoi Gove yn ei le,” ychwanegodd Boris Johnson yn y sgwrs ar Ebrill 27 y llynedd.

Ond disgrifiodd Dominic Cummings Swyddfa’r Cabinet fel “shitshow llwyr” a dywedodd y byddai gan hynny “risg ddifrifol o’i wneud yn waeth, nid yn well”.

“Iawn. WTF (What The F***) ydyn ni’n ei wneud?,” honnwyd bod y Prif Weinidog wedi ymateb.

Y negeseuon yw ymgais gyntaf Dominic Cummings i gyhoeddi tystiolaeth ers ei ymddangosiad gerbron pwyllgor dethol lle cyhuddodd yr Ysgrifennydd Iechyd o ddweud celwydd, methu diogelu cartrefi gofal ac “ymddygiad troseddol a gwarthus” ar brofion.

Dominic Cummings

Dominic Cummings yn dweud y dylai Matt Hancock fod wedi cael ei ddiswyddo am “o leiaf 20 peth”

Mae Cummings hefyd wedi dweud ei fod yn “fethiant anferth” ar ei ran i beidio â chynghori’r Prif Weinidog i anghofio am imiwnedd torfol yn gynharach

Matt Hancock yn gwrthod “honiadau di-sail” Dominic Cummings

Yr Ysgrifennydd Iechyd yn gwneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin