Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi gwrthod yr “honiadau di-sail” a wnaed amdano gan gyn-brif ymgynghorydd Rhif 10, Dominic Cummings, wrth iddo ymdrechu i achub ei yrfa.

Roedd cyn-ymgynghorydd Boris Johnson wedi cyhuddo Matt Hancock o ddweud celwydd, ac o ymateb yn “drychinebus” i’r pandemig gan ddweud y dylai fod wedi cael ei ddiswyddo ar sawl achlysur.

Bu’n rhaid iddo wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin bore ma (Dydd Iau, Mai 27) i ymateb i’r honiadau.

Dywedodd: “Nid yw’r honiadau di-sail yma ynghylch gonestrwydd yn wir.

“Rydw i wedi bod yn hollol glir gyda phobl yn gyhoeddus ac yn breifat drwy gydol hyn.”

Ychwanegodd Matt Hancock: “Bob dydd ers i mi ddechrau gweithio ar yr ymateb i’r pandemig hwn fis Ionawr diwethaf, dw i wedi codi bob bore a gofyn: ‘Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i amddiffyn bywyd?’

“Dyna ydy swydd yr Ysgrifennydd Iechyd mewn pandemig.

“Rydyn ni wedi cymryd agwedd agored, tryloyw ac wedi esbonio’r hyn rydyn ni’n ei wybod a’r hyn nad ydyn ni’n ei wybod.”

“Anaddas i’r swydd”

Gan gyfeirio at honiadau Cummings, dywedodd Jon Ashworth, Ysgrifennydd Iechyd y Blaid Lafur, “fod y Prif Weinidog yn anaddas i’r swydd, fod ei ddiffyg gweithredu wedi arwain at ddegau o filoedd o farwolaethau diangen”.

Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod Cummings yn honni fod Hancock wedi camarwain cydweithwyr, at ddiffyg paratoi yn y Cabinet, a’u bod nhw wedi symud pobol o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi.

“Mae’r honiadau yma gan Cummings naill ai’n wir, ac os felly mae’r Ysgrifennydd Gwladol o bosib wedi torri’r cod gweinidogol ac egwyddorion Nolan, neu maen nhw’n anghywir ac fe wnaeth y Prif Weinidog ddod â chelwyddgi a ffantasïwr i ganol Downing Street. Pa un?” gofynnodd Jon Ashworth.

“Mae teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn haeddu atebion llawn ganddo heddiw.

“Ydi e’n siomedig ei fod wedi addo amddiffyn cartrefi gofal, ond fod dros 30,000 o breswylwyr cartrefi gofal wedi marw?”

Ar sawl achlysur, fe wnaeth Hancock wrthod gwadu honiad Cummings ei fod wedi dweud wrth gydweithwyr y byddai cleifion mewn ysbytai yn cael eu profi am Covid-19 cyn cael eu rhyddhau i gartrefi gofal, gan ddweud fod nifer o’r honiadau’n “ddi-sail”.

Dynladdiad corfforaethol

Gofynnodd Aelod Seneddol Llafur dros Dde Ddwyrain Bolton, Yasmin Qureshi, pryd fydd y Prif Weinidog, ac eraill, yn cael eu hymchwilio ar amheuaeth o ddynladdiad corfforaethol.

“Wythnos diwethaf fe wnaeth fy etholwyr gael eu beio ar gam am fod yn gyndyn o gymryd y brechlyn, ac wedyn fe gawsom ni ein taflu i ryw hanner-cyfnod clo nad oedd neb yn gwybod amdano, a chafodd cynlluniau teithio nifer o bobol eu drysu,” meddai Yasmin Qureshi.

“Gall fy etholwyr faddau i’r Llywodraeth am hynny, ond dw i’n siŵr mod i’n siarad ar ran y wlad pan dw i’n dweud na allwn ni faddau fod degau o filoedd o bobol wedi marw pan nad oedd rhaid iddyn nhw farw – geiriau iasol Dominic Cummings.

“A wneith yr Ysgrifennydd Gwladol ddweud wrtha i, pryd fydd y Prif Weinidog, ac eraill, yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu ar amheuaeth o ddynladdiad corfforaethol, a pham na wnaethon ni ddilyn esiampl Seland Newydd lle maen nhw wedi llwyddo i reoli’r [pandemig] gyda’r nifer lleiaf posib o farwolaethau?”

Wrth ymateb, dywedodd Hancock: “Na, ond beth wna’i ei ddweud wrth bobol Bolton – yw bod pobol Bolton wedi ymateb i’r her eto.

“Mae’r nifer o frechlynnau sy’n cael eu rhoi yn Bolton ar y funud yn rhyfeddol, degau o filoedd bob un diwrnod, ac mae’n galonogol gweld ciwiau o bobol yn ffurfio.”

“Bwriadol esgeulus”

Yn y cyfamser, mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Angela Rayner, wedi awgrymu wrth Sky News fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “fwriadol esgeulus” wrth ymateb i’r pandemig.

“Dylai ymchwiliad cyhoeddus ddechrau ar unwaith”, meddai Ms Rayner yn ystod y cyfweliad.

“Mae yna gwestiynau difrifol ar gyfer heddiw, nid yn unig ynghylch beth ddigwyddodd yn y gorffennol, ond sut ydyn ni’n amddiffyn ein hanwyliaid heddiw.

“Ac os oedd y llywodraeth yn fwriadol esgeulus, yn gwybod eu bod nhw’n rhoi bywydau pobol mewn perygl, mae angen i bobol wybod hynny.”

Pan ofynnodd cyflwynydd y rhaglen iddi a oedd hi’n golygu defnyddio’r term “bwriadol”, gan awgrymu fod y Llywodraeth yn bwriadu gwneud niwed, ni wnaeth hi ymhelaethu, nag ychwaith dynnu’r honiad yn ei ôl.