Mae Gweinidog Economi Cymru wedi disgrifio un o raglenni buddsoddi gan Lywodraeth San Steffan fel ymgais “uniongyrchol ac amlwg” i sathru ar bwerau datganoledig.
Daeth sylwadau Vaughan Gething yn ystod sesiwn dystiolaeth â Phwyllgor Materion Cymreig San Steffan fore heddiw (Dydd Iau, Mai 27).
Mae’r Ceidwadwyr wedi ymrwymo i ddyrchafu pob rhan o Brydain i’r un lefel yn economaidd (levelling up yw’r term Saesneg) ac mae’n gobeithio y bydd y Gronfa Codi’r Gwastad (the Levelling Up Fund) yn cyfrannu at hynny.
Ond mae’r gronfa yn hynod ddadleuol, a hynny oherwydd y byddai’n darparu arian i gynghorau sir Cymru yn uniongyrchol, gan neilltuo Llywodraeth Cymru yn llwyr.
Yn siarad am y mater fore heddiw, mi rannodd Vaughan Gething ei farn yn ddigon plaen.
“Dyma sathru uniongyrchol ac amlwg ar feysydd a dylanwad datganoledig,” meddai.
“Ac mae bron yn ymddangos fel taw dyna oedd y bwriad. I mi mae’r weithred hwn yn ymosodol. A does dim angen ymddwyn yn y fath modd.
“Ac i’r rheiny ohonom sydd yn credu yn nyfodol yr undeb, nid yw’n unrhyw help.
“Cafodd Llywodraeth Cymru ei chreu gan bobol Cymru trwy gyfres o refferenda a Deddfau Cymru – deddfau a amlinellodd y pwerau.
“Mae gennym Lywodraeth â mandad newydd ac yn syth bin mae yna agwedd ymosodol tuag atom, ac ystyriaeth yn cael ei rhoi i sathriad ar bwerau datganoledig.
“Fel’na mae hi, a does dim pwynt esgus nad dyna sy’n digwydd.”
Y Gweinidog yn trafod annibyniaeth
Yn ystod y sesiwn dywedodd Vaughan Gething bod y cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig, ynghylch eu rhaglenni buddsoddi wedi bod yn sâl.
Ac mi bwysleisiodd bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydweithio â’r Llywodraeth yng Nghaerdydd yn amlach.
Roedd hefyd yn awyddus iawn i bwysleisio bod cydweithio wedi llwyddo yn y gorffennol, a bod yna barodrwydd ar ei ran yntau i gydweithio â rhagor o feysydd a phrosiectau.
Camgymeriad, meddai Vaughan Gething, yw credu mai trwy ganoli grym y mae arbed yr undeb. A dywedodd bod modd achub y Deyrnas Unedig trwy wneud y gwrthwyneb.
Rhybuddiodd bod sathru ar bwerau datganoledig ond yn mynd i bwsio rhagor o bobol yng Nghymru at annibyniaeth.
“Dw i ddim yn berson sydd wedi fy nenu yn syth bin at annibyniaeth,” meddai wrth rannu ei farn yntau am ddyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.
“Mi all Cymru fod yn wlad annibynnol. Ond mi fuasem yn wlad dlotach.”
Yr economi a’r pandemig
Mae Vaughan Gething ond wedi treulio pythefnos yn ei rôl newydd yn Weinidog yr Economi, a chyn hynny mi oedd yn Weinidog Iechyd.
Mae wedi treulio cryn dipyn o’i amser yn canolbwyntio ar yr argyfwng covid dros y flwyddyn ddiwetha’, ac yn siarad heddiw dywedodd y byddai’r pandemig yn parhau’n flaenoriaeth iddo.
“Ein hadferiad o covid – dyna yw’r mater mwyaf,” meddai.
“Dyw’r pandemig ddim wedi dod i ben eto. Mae yna olau ar ben arall y twnnel, heb os, ond rydym yn y twnnel o hyd. Ac rydym yn symud mas ohono fe.
“Ac rydym yn gwybod ei fod wedi peri her anferth i iechyd cyhoeddus.
“Ac mae hefyd yn her economaidd. A hynny o ran oedi gweithgarwch, aildanio gweithgarwch, aildanio’r economi, a’r hyn fydd yn digwydd yn y dyfodol.
“Mae’r byd gwaith wedi newid, a daw ansicrwydd â hynny.”
Cyfeiriodd yn benodol at y ffaith bod gweithio o gartref wedi peri her i rai, ond wedi bod yn fendith i eraill.