Nid yw’r heddlu wedi darganfod gweddillion dynol wrth archwilio caffi yng Nghaerloyw fel rhan o’u hymchwiliad i ddiflaniad Mary Bastholm, a aeth ar goll yn 1968.

Ers blynyddoedd, mae’r heddlu’n tybio fod y ferch, a oedd yn ei harddegau ar y pryd, wedi cael ei llofruddio gan y llofrudd Fred West.

Dechreuodd Heddlu Caerloyw ar y gwaith tyrchu yn gynharach y mis hwn ar ôl derbyn gwybodaeth gan gwmni cynhyrchu y gallai gweddillion dynol fod wedi’u claddu o dan seler caffi Clean Plate.

Roedd Mary Baltsholm, a gafodd ei gweld am y tro diwethaf ym mis Ionawr 1968, yn 15 oed, yn gweithio fel gweinyddes mewn caffi galw-i-mewn ar yr un safle.

Roedd Fred West, a fu farw yn y carchar ym 1995 wrth aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o lofruddio 12 merch a menyw, yn adnabod Mary ac roedd yn gwsmer rheolaidd yn y caffi.

“Mae gwaith tyrchu yng nghaffi Clean Plate wedi gorffen nawr, a gallwn gadarnhau na chafwyd hyd i weddillion dynol nag unrhyw eitemau sydd o bwys i’r ymchwiliad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Caerloyw.

“Mae teulu Mary wedi cael hysbysu, ac maen nhw’n parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu.”