Fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn wynebu Aelodau Seneddol heddiw (Dydd Iau, Mai 27) yn dilyn honiadau a wnaed gan gyn-brif ymgynghorydd Rhif 10 Dominic Cummings.

Roedd e wedi honni ddoe fod Matt Hancock wedi dweud celwydd wrth ei gyd-weithwyr ac wedi perfformio’n “drychinebus” yn ystod pandemig Covid.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd wrth asiantaeth newyddion PA nos Fercher nad oedd wedi gweld tystiolaeth Dominic Cummings i ASau am ei fod yn “achub bywydau” drwy ddelio gyda’r rhaglen frechu.

Fe fydd yn ateb cwestiwn brys yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae disgwyl iddo gynnal cynhadledd i’r wasg ar gan y Llywodraeth, ddiwrnod wedi’r feirniadaeth lem gan Dominic Cummings. Roedd e’n dadlau y dylai Matt Hancock fod wedi cael y sac ar sawl achlysur.

“Miloedd o bobl wedi marw’n ddiangen”

Roedd Dominic Cummings hefyd wedi ymddiheuro am ei ddiffygion ei hun ond roedd wedi honni bod y Prif Weinidog Boris Johnson yn “ddi-glem” yn ei swydd a bod “degau ar filoedd o bobl wedi marw’n ddiangen” oherwydd methiannau’r Llywodraeth.

Mae disgwyl i ASau holi Matt Hancock am yr honiadau heddiw. Dywedodd llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Iechyd eu bod nhw’n “gwrthod yn llwyr” y feirniadaeth gan Dominic Cummings, a oedd wedi gadael ei swydd ar ddiwedd 2020.

Yn y cyfamser mae disgwyl i Boris Johnson wynebu cwestiynau yn dilyn y dystiolaeth gan ei gyn-brif ymgynghorydd, pan fydd yn ymweld ag ysbyty ddydd Iau.

Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur Angela Rayner wedi dweud bod angen cynnal ymchwiliad cyhoeddus ar unwaith.