Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi canfyddiadau arolygiadau o ganolfannau brechu torfol ledled Cymru.

Yn ystod mis Mawrth 2021, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyfres o arolygiadau, gan ymweld ag wyth canolfan brechu torfol.

Daeth i’r casgliad bod “trefniadau diogel ac effeithlon ar waith ar gyfer brechiadau torfol, a roddir gan staff ymroddedig sy’n gweithio’n galed”.

Gofynnwyd i gleifion a staff roi adborth ar unrhyw un o’r canolfannau brechu torfol yng Nghymru, nid dim ond y canolfannau y gwnaethom ymweld â nhw.

Cafodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dros 500 o ymatebion gan bobol a oedd wedi cael eu brechiad, ac roedd adborth y cleifion yn gadarnhaol ar y cyfan.

Dilynodd ei dull arolygu profiad cleifion drwy’r broses frechu, o’r adeg cyn iddynt gael eu brechiad i’r adeg ar ôl iddynt ei dderbyn, a’u hadferiad.

Dywed fod y byrddau iechyd wedi rhoi trefniadau priodol ar waith i oruchwylio’r broses o gyflawni eu rhaglenni brechu yn ddiogel.

Fodd bynnag, mae’r arolygiadau yn cydnabod bod angen gwneud rhai gwelliannau er mwyn cynnal diogelwch y cleifion.

Mae’r rhain yn cynnwys cynnal mwy o archwiliadau, sicrhau cydymffurfiaeth well â gweithdrefnau diogelwch tân a gwagio’r adeilad, ac archwilio cyfarpar diogelwch personol yn fwy rheolaidd.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Mae’n amlwg bod y byrddau iechyd wedi gweithio’n galed iawn i gynllunio a pharatoi ar gyfer rhoi brechiadau yn eu rhanbarthau er mwyn helpu i ddiogelu pobol ledled Cymru rhag COVID-19.

“Drwy ein gwaith, roedd yn amlwg yn y mwyafrif helaeth o achosion fod y trefniadau sydd ar waith ar gyfer rhoi brechiadau yn ddiogel ac yn effeithlon, er gwaethaf maint, cyflymder a natur gymhleth y safleoedd a’r timau dros dro.”