Mae Aelodau Seneddol yn dadlau y dylid sefydlu “gwasanaeth crwner cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr”.
Maen nhw’n dweud y byddai hyn yn mynd i’r afael â’r amrywiad “annerbyniol” mewn safonau mae pobol sydd mewn profedigaeth ar draws y wlad yn ei brofi.
Mae aelodau Pwyllgor Dethol Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin hefyd wedi galw am “gydraddoldeb” cyfreithiol mewn cwestau cymhleth, fel y rhai sy’n dilyn trychinebau cyhoeddus, drwy roi’r hawl awtomatig i bobol sydd wedi colli anwyliaid gael arian cyhoeddus ar gyfer cynrychiolaeth gyfreithiol.
Mae’r argymhellion ymhlith nifer o ddiwygiadau a gynigiwyd gan y pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad i wasanaeth crwneriaid ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau (Mai 27), rhybuddiodd Aelodau Seneddol, er gwaethaf gwelliannau i’r gwasanaethau crwner yn ystod y blynyddoedd diwethaf, “nad yw pobol mewn profedigaeth wrth galon” y gwasanaeth.
Dywed fod “amrywiad annerbyniol o hyd yn safon y gwasanaeth” rhwng gwahanol ardaloedd oherwydd bod awdurdodau lleol yn rhannol gyfrifol am ariannu gwasanaethau a mabwysiadu asesiadau gwahanol o flaenoriaethau lleol.
Er bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) yn goruchwylio polisi gwasanaeth crwneriaid, mae cynghorau’n gyfrifol am ariannu 85 o wasanaethau lleol.
“Siomi pobol mewn profedigaeth”
“Mae llywodraethau olynol wedi siomi pobol mewn profedigaeth drwy fethu â sefydlu gwasanaeth crwner cenedlaethol i Gymru a Lloegr,” meddai Aelodau Seneddol yn yr adroddiad.
“Gwasanaeth crwner cenedlaethol yw’r unig ffordd y gellir darparu gwasanaethau cyson o safon dderbyniol i bobol mewn profedigaeth.”
Dywedodd Gwasanaeth Cymorth Llysoedd Crwneriaid (CCSS) wrth ymchwiliad y pwyllgor fod rhai crwneriaid yn “galluogi teuluoedd mewn profedigaeth i gymryd rhan lawn yn y trafodion”.
Ond roedd crwneriaid eraill wedi gwneud i bobol deimlo’n “rhwystredig ac yn ddig” yn ogystal â “diystyru eu pryderon”.
Dywedodd Aelodau Seneddol fod pandemig Covid-19 wedi arwain at ohirio “nifer sylweddol” o gwestau oherwydd cyfyngiadau.
Maen nhw’n dadlau y dylid gwneud mwy i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig i bobol ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gwasanaethau cymorth arbenigol sydd ar gael.
A dylai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder “adolygu a chynyddu” ffioedd gwasanaeth patholegwyr ar unwaith ar ôl dod o hyd i ddiffyg mewn gwasanaethau patholeg sydd ar gael i grwneriaid, gan arwain at “oedi a gofid i bobol mewn profedigaeth”.
“Tystiolaeth glir”
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Syr Bob Neill: “Mae’n arwydd o gymdeithas waraidd i ddangos parch a chydymdeimlad tuag at deuluoedd mewn profedigaeth.
“Rhaid dilyn y parch a’r cydymdeimlad hwnnw gyda ffordd gadarn i ni i gyd ddysgu o farwolaethau trasig, weithiau diangen.
“Ers blynyddoedd lawer, bu tystiolaeth glir nad yw cymorth o’r fath ar gael yn gyson ledled y wlad.
“Mae’n anodd deall gwrthodiad llywodraethau olynol i sefydlu gwasanaeth crwner cenedlaethol i unioni hyn.
“Rydym yn dod i’r casgliad bod angen gwasanaeth o’r fath i sicrhau bod y rhai sydd wedi colli anwyliaid, weithiau mewn amgylchiadau dramatig ac ofnadwy, yn gallu cael y lefel o help a chyngor sydd eu hangen arnynt, ble bynnag y maen nhw’n byw.”
“Cefnogaeth”
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Rydym yn benderfynol bod teuluoedd sy’n galaru yn cael y gefnogaeth gywir, gan gynnwys gwasanaethau crwner sy’n gyson ac yn cael eu darparu i’r safon uchaf.
“Byddwn yn ystyried yr argymhellion hyn yn ofalus ac yn ymateb maes o law.”