Mae Pets at Home wedi datgelu bod elw’r cwmni wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf ar ôl iddo gael hwb oherwydd bod mwy o bobl yn dewis bod yn berchen ar anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig.
Dywedodd y cwmni fod ei elw wedi cynyddu 7.9% i’r swm uchaf erioed, £1.14 biliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at 25 Mawrth.
Ychwanegodd fod nifer yr anifeiliaid anwes yn y Deyrnas Unedig wedi codi “tua 8% yn y 12 mis yn dilyn y cyfyngiadau symud cyntaf”.
Arweiniodd hyn at gynnydd mewn elw manwerthu, oedd weid mynd y tu hwnt i £1 biliwn mewn blwyddyn, a hynny am y tro cyntaf.
Dywedodd Pets at Home fod gwerthiant cynnyrch ar gyfer cŵn bach wedi neidio 26%, tra bod cynnyrch cathod wedi cynyddu 37%.
Ychwanegodd fod elw cyn treth sylfaenol ar gyfer y flwyddyn wedi gostwng 6.4% flwyddyn ar ôl blwyddyn i £87.5 miliwn ar ôl iddo golli £30 miliwn yn sgil “cyfyngiadau a chostau refeniw sy’n gysylltiedig â Covid”.
Dywed ei fod yn bwriadu buddsoddi tua £70 miliwn dros y flwyddyn ariannol gyfredol, gan drawsnewid ei siopau, tyfu’n ddigidol ac adeiladu safle dosbarthu cenedlaethol newydd.
Bydd y cwmni’n targedu gwerth £600 miliwn o gyfleoedd refeniw pellach i barhau â’i dwf diweddar, yn ôl prif weithredwr Pets at Home, Peter Pritchard.
“Dyma fu’r cyfnod mwyaf anghyffredin yn fy 35 mlynedd ym maes manwerthu,” meddai.
“Mae’r pandemig wedi arwain at newidiadau parhaol i’r ffordd rydym yn gweithio ac yn treulio ein hamser hamdden, gan ddileu rhwystrau hanesyddol i berchnogaeth anifeiliaid anwes a chryfhau’r cysylltiad emosiynol rhwng pobol a’u hanifeiliaid anwes.
“Rwy’n falch o ddweud, diolch i’n ecosystem gofal anifeiliaid anwes unigryw ac ymdrechion diflino ein gweithwyr, ein bod wedi cymryd cyfran fwy o’r farchnad gynyddol hon ac yn dod allan o’r pandemig yn fusnes cryfach.”