Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu fod rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar anghenion cleifion, a gweithredu.

Yn ôl llefarydd iechyd y blaid, Russell George, mae Llywodraeth Cymru yn gwthio’r bai ar fyrddau iechyd, yn hytrach na dangos arweinyddiaeth.

Daw hyn yn dilyn pryderon rhieni bachgen 19 mis oed, sy’n dioddef o lewcemia, mai dim ond un rhiant sy’n gallu mynd gydag ef i’r ysbyty.

Dywedodd Carrie a Jason Josephson, rhieni Carson, wrth y BBC fod y rheol yn annheg, ac na ddylai’r un rhiant orfod delio gyda hyn ar ben ei hunain.

Cafodd tad Carson wybod mewn maes parcio ysbyty fod ei fab yn dioddef o ganser, a dywedodd fod rheolau Covid yn “hynod greulon”.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan ysbytai’r hawl i fod yn “hyblyg”, ac addasu’r gofynion ymweld er mwyn cyd-fynd â sefyllfaoedd unigol.

“Angen gwrando a gweithredu”

Ond yn ôl Russell George, sy’n Aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, mae Llywodraeth Cymru’n gwrthod “sefyll dros bobol”.

“Mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod nhw’n deall pa mor anodd a phryderus yw’r amser i Carson, Carrie, a Jason. Ond dydyn nhw ddim yn fodlon gweithredu,” meddai Russell George.

“Mae hwn yn fater difrifol sy’n effeithio ar gannoedd o gleifion a’u teuluoedd ar adeg hollbwysig yn eu bywydau, yn enwedig pan mae pobol yn parhau i ddioddef sgil effaith y pandemig ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol.

“Ond yn hytrach na dangos arweinyddiaeth a sefyll dros bobol, mae Llywodraeth Cymru yn gwthio’r bai ar fyrddau iechyd sydd wedi’u gorymestyn a’u gorweithio. Mae angen i Lywodraeth Cymru wrando ar anghenion cleifion, a gweithredu.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod eithriadol o anodd a phryderus i rieni a gofalwyr plant sâl. Mae lles plant a phobl ifanc wrth wraidd ein harweiniad,” meddai llefarydd a ran Llywodraeth Cymru.

“Fodd bynnag, mae gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau hyblygrwydd i ddiwygio gofynion ymweld a bod yn sensitif i sefyllfaoedd unigol.”