Mae Heddlu De Cymru wedi dwysáu’r gwaith o fynd i’r afael â gangiau cyffuriau, gan arwain at dros 30 o arestiadau ac atafaelu cyffuriau gwerth dros £179,000 yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Roedd lluoedd heddlu ar draws Prydain yn cymryd rhan mewn ‘Wythnos Dwysáu Gwaith ar Linellau Cyffuriau’.

Roedd Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol ar gyfer De Cymru, yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Heddluoedd De Cymru, Dyfed Powys a Gwent yn ogystal â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Nod yr wythnos oedd sicrhau bod bob cyfle’n cael ei gymryd i amharu ar droseddwyr a diogelu pobol fregus.

Ymhlith canlyniadau’r wythnos roedd:

  • Arestio 32 o bobol.
  • Dileu pedwar llinell cyffuriau.
  • Atafaelu cyffuriau gwerth dros £179,000, gan gynnwys 1.5kg o heroin.
  • Atafaelu dros £23,000 mewn arian parod.
  • Ymweld â nifer o bobl y gallai troseddwyr gam-fanteisio arnynt, siarad â nhw a’u hatgyfeirio i gael cymorth.

Roedd swyddogion yr heddlu yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys camerâu adnabod rhifau ceir yn awtomatig, cyrchu cyllyll, gwarantau chwilio, swyddogion cudd a chŵn yr heddlu.

“Rwyf wrth fy modd â chanlyniadau’r wythnos dwysáu hon, ond nid dyma ddiwedd y gwaith,” meddai Richard Weber, Ditectif Arolygydd ar gyfer Tarian.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda heddluoedd De Cymru yn ogystal â’n partneriaid i wneud ein rhanbarthau’n fwy diogel rhag y frwydr yn erbyn troseddau cyfundrefnol, cyffuriau Dosbarth A sy’n eu cyrraedd, a bwgwth trais difrifol.

“Nod wythnosau dwysáu gwaith ar linellau cyffuriau yw amharu ar gangiau troseddau cyfundrefnol y mae eu gwaith yn gwneud niwed meddyliol a chorfforol sy’n para am oes i oedolion a phobl ifanc sy’n agored i niwed.

“Rydym am sicrhau bod De Cymru yn amgylchedd annymunol i’r gangiau hyn a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell.”

“Gweithio’n ddiflino”

Ychwanegodd Marc Gardner, Ditectif Arolygydd Heddlu De Cymru: “Mae ymrwymiad ein timau i fynd i’r afael â’r math hwn o droseddoldeb cyfundrefnol yn gwbl hanfodol i’r gwaith o ddwyn y bobl sy’n gyfrifol amdani o flaen eu gwell a diogelu ein cymunedau.

“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid am y gwaith y maent yn ei wneud gyda ni.

“Drwy arfer dull amlasiantaethol, gallwn weithio mewn modd mor eang â phosibl er mwyn dwyn cyflawnwyr troseddau llinellau cyffuriau o flaen eu gwell.

“Yma yn Heddlu De Cymru, a gyda Tarian, byddwn yn gweithio’n ddiflino bob amser i dargedu’r gangiau hyn a sicrhau bod ein rhanbarth yn annymunol iddynt.

“Byddwn yn eu hymlid i bob cwr o Brydain er mwyn eu dwyn o flaen eu gwell.”