Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi pwy sydd yn eu cabinet cysgodol newydd yn y Senedd.

Dywed yr arweinydd Andrew RT Davies fod y tîm yn “llawn egni a syniadau” a’i fod e “wedi cyffroi o weld cabinet cysgodol newydd llawn talent ac arbenigedd”.

“Ar ôl ein canlyniad gorau mewn etholiad yng Nghymru, mae’r tîm newydd hwn yn llawn egni a syniadau er mwyn mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu Cymru wrth ddod allan o’r pandemig,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno tîm ffres i’r Senedd, dw i wedi cyffroi o weld cabinet cysgodol yn llawn talent ac arbenigedd o’r tu allan i’n Senedd yn dod yn rhan o ymryson gwleidyddol Cymru.

“Ein blaenoriaeth gyntaf fydd gweithio er lles y genedl er mwyn gwarchod bywoliaethau, a sicrhau bod yr economi ar y ffordd at adferiad, a’n bod ni’n adeiladu’n ôl yn well ar ôl y cyfnod anoddaf rydyn ni wedi’i weld yn ystod cyfnod o heddwch ym Mhrydain.

“Bydd fy nhîm yn gwneud y gwaith y mae teuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru am ei weld gennym ni – dal Llafur yn atebol, cynnig polisïau gwahanol, cadarnhaol wrth i ni drio adeiladu dewis real gwahanol, a sicrhau ein bod ni’n creu gwell llywodraeth trwy ein gwrthwynebiad cryf.”

Dyma’r Cabinet yn llawn:

Andrew RT Davies – arweinydd

Darren Millar – Prif Chwip a’r Cyfansoddiad a gogledd Cymru

Altaf Hussain – Dirprwy Chwip a Chydraddoldeb

Janet Finch-Saunders – Newid Hinsawdd

Tom Giffard – Diwylliant, Twrisiaeth, a Chwaraeon

Paul Davies – Economi

Laura Jones – Addysg

Peter Fox – Arian

Russell George – Iechyd

Sam Rowlands – Llywodraeth Leol

James Evans – Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant, a Chanolbarth Cymru

Samuel Kurtz – Gweinidog Materion Gwledig a’r Gymraeg

Mark Isherwood – Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Chwnsler Cyffredinol

Joel James – Gweinidog Partneriaethau Cymdeithasol

Gareth Davies – Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Natasha Asghar – Gweinidog Trafnidiaeth a Thechnoleg

Bydd Janet Finch-Saunders yn parhau fel enwebai’r blaid ar gyfer Comisiwn y Senedd.