Bydd mwy na 200 o swyddi’n cael eu creu yng Nglannau Dyfrdwy wrth i gwmni cynhyrchu sidan o’r Eidal gyhoeddi eu bod nhw am adeiladu ffatri newydd sbon yno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £5m ar gyfer y cyfleuster newydd, a fydd yn cael ei adeiladu ar safle Porth y Gogledd.
Daw hyn yn dilyn buddsoddiad o £10m ar gyfer datblygu’r safle fis Mawrth, ac mae disgwyl y bydd gwaith adeiladu ar y ffatri’n dechrau’r flwyddyn nesaf.
Mae’r cwmni ICT wedi llofnodi cytundeb cychwynnol ar gyfer safle 50 erw er mwyn adeiladu ffatri fodern i drosi a chynhyrchu papur sidan.
Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, bydd 229 o swyddi newydd yn cael eu creu yno, a bydd y ffatri’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynhyrchu hancesi papur ar gyfer marchnadoedd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Yn ôl y cwmni, mae’r lleoliad a’r datblygiad yn cynnig y “cyfle perffaith” i fanwerthwyr a chwsmeriaid fanteisio ar gynnyrch papur o’r safon uchaf ac ar gyflenwad sicr.
“Potensial aruthrol”
“Mae’r datblygiad hwn yn newyddion da i safle Porth y Gogledd, Glannau Dyfrdwy a’r gogledd,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford cyn ymweld â’r Gogledd.
“Mae’n golygu bod ffatri newydd fodern yn dod i’r safle gan greu mwy na 200 o swyddi, gyda’r posibilrwydd o fwy o ehangu yn y dyfodol.
“Mae gan safle Porth y Gogledd botensial aruthrol ac rwy’n falch iawn o fod wedi gallu helpu ICT i benderfynu symud eu cyfleuster newydd yma.
“Bydd yn gyflogwr pwysig yn y dyfodol a bydd ei gyfraniad yn allweddol wrth inni adeiladu Gogledd Cymru gryfach a thecach.”
‘Newyddion ardderchog’
“Dyma newyddion ardderchog i’r Gogledd. Mae ICT yn arweinydd byd yn ei faes a bydd yn creu swyddi crefftus yn y rhanbarth,” ychwanegodd Lesley Griffiths, Gweinidog y Gogledd.
“Rwy’n disgwyl ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn datblygu.”
Yn ôl llefarydd ar ran ICT, “mae gweithio gyda thîm Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn brofiad adeiladol iawn”.
“Mae ICT wedi cynnal astudiaeth drylwyr iawn o safleoedd posibl ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig dros y tair blynedd diwethaf ac rydyn ni’n fwy na hapus â’n dewis i ymgartrefu yng Nglannau Dyfrdwy ac i ehangu ôl troed ein busnes i’r Gogledd ac i’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at fynd ati ar fyrder i weithio ar y safle a chreu ein tîm ICTUK.”