Mae Mark Drakeford yn annog ymwelwyr i bacio profion llif unffordd, yn enwedig os ydyn nhw’n ymweld â Chymru o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â chyfraddau uwch o Covid-19.

Mae’n gofyn i bob ymwelydd o’r ardaloedd hynny, gan gynnwys rhannau o Loegr sydd â nifer o achosion o amrywiolyn India, i gymryd camau ychwanegol i ddiogelu Cymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi gofyn i bobol sy’n byw mewn ardaloedd o Loegr lle mae nifer yr achosion o amrywiolion yn uchel i deithio cyn lleied â phosib allan o’r ardal.

Fodd bynnag, dydy’r cyngor ddim yn atal teithio y tu hwnt i’r ardaloedd hyn, sy’n cynnwys Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside.

Mae’r ystadegau yn dangos bod dros 3,200 o achosion o amrywiolyn India sy’n peri pryder wedi’u nodi yn Lloegr. Mae 57 o achosion yng Nghymru.

“Diogelu Cymru”

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n bwriadu dod ar wyliau i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws i brofi eu hunain yn rheolaidd, gan ddefnyddio’r profion llif unffordd am ddim, cyn iddyn nhw deithio,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Dim ond y rhai sy’n cael canlyniad prawf negyddol ac sydd heb symptomau’r coronafeirws ddylai deithio.

“Dylai pawb sy’n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o’r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddan nhw ar wyliau.

“Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yn lleol ledled Cymru.

“Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i’r amlwg.

“Mae hyn yn wir o fewn Cymru, ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

“Mae’r feirws yn symud gyda phobol, ac mae pobol yn dod â’r feirws i ardaloedd newydd wrth iddyn nhw symud o gwmpas.

“Ein rhaglen frechu lwyddiannus yw’n llwybr gorau allan o’r pandemig hwn.

“Rwy’n annog pawb i barhau i fod yr un mor ofalus ac i fabwysiadu’r un ymddygiad diogelu ag yr ydym wedi’i wneud drwy gydol y pandemig, wrth inni barhau i frechu gweddill y boblogaeth sy’n gymwys yng Nghymru.”