Mae Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson, bellach yn dweud ei fod e wedi teithio i Swydd Durham yn ystod y cyfnod clo cyntaf y llynedd oherwydd bod gang yn bygwth ei deulu.
Fe wnaeth cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson gyfaddef fod ei amddiffyniad ar gyfer mynd ar y daith “wedi tanseilio hyder y cyhoedd”.
Dywedodd wrth y pwyllgor hefyd fod degau o filoedd o bobol “wedi marw heb fod angen” yn sgil ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r pandemig.
Fore heddiw (dydd Mercher, Mai 26), fe wnaeth Cummings ymddiheuro sawl gwaith nad oedd e wedi gwneud mwy i gyflwyno cyfnod clo ynghynt, ac mae e wedi dweud ei fod e’n “andros o sori” am deithio i Durham.
Dywedodd fod hynny wedi bod yn “drychineb enfawr i’r Llywodraeth ac i bolisi Covid”.
Ond dywedodd ei fod wedi hepgor “rhan hollbwysig” o’r esboniad dros dorri’r rheolau ar ddiwedd mis Mawrth y llynedd yn sgil materion diogelwch.
Y daith i Durham
Yn ôl Cummings, dywedodd ei wraig wrtho ym mis Chwefror fod yna gang tu allan i gartref y teulu yn “dweud eu bod nhw am dorri mewn i’r tŷ, a lladd pawb tu mewn”.
Ar ôl ymgynghori â Swyddfa’r Cabinet, daeth i’r penderfyniad ei bod hi’n well symud ei deulu o Lundain i gartref ei rieni yn Swydd Durham er gwaethaf rheolau’r cyfnod clo.
Wedi i adroddiadau am y daith ymddangos yn y wasg, dywedodd Cummings fod y “prif weinidog a mi wedi cytuno i guddio’r stori a pheidio dweud dim byd amdano, yn sgil materion diogelwch”.
“Ro’n i’n andros o ymwybodol o’r broblem, pan ydych chi’n siarad am y pethau hyn, eich bod chi’n creu mwy o drwbl i chi eich hun, ac ro’n i wedi rhoi fy ngwraig a fy mhlant ar y rheng flaen yn barod.
“Felly dywedais, ‘Dw i ddim yn siarad am hyn, dylen ni gau ein cegau amdano’.”
Eglurodd fod Boris Johnson dan bwysau i esbonio’r daith, a daeth penderfyniad i gynnal cynhadledd i’r wasg.
Flwyddyn i ddoe, fe wnaeth Cummings siarad â chynhadledd i’r wasg o ardd 10 Downing Street, gan geisio cyfiawnhau ei daith.
Dywedodd Cummings wrth y pwyllgor heddiw ei fod wedi gwneud “camgymeriad ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy” wrth beidio â gyrru ei deulu allan o Lundain eto, ac wedyn dweud y gwir i gyd.
“Fe wnes i wneud yr holl beth yn yr ardd rosod ac roedd beth ddywedais yn wir, ond fe wnaethon ni adael darn hollbwysig allan,” meddai.
“Roedd yr holl beth yn drychineb llwyr – ac wedyn fe wnaeth danseilio hyder y cyhoedd yn yr holl beth – y gwir yw, pe bawn i wedi gyrru fy nheulu yn ôl allan o Lundain a dweud ‘dyma’r gwir’ i’r cyhoedd, dw i’n meddwl y byddai pobol wedi deall y sefyllfa.
“Roedd yn gamfarniad ofnadwy i beidio â gwneud hynny. Roedd y prif weinidog yn anghywir, roeddwn i’n anghywir.”
Fe wnaeth Cummings gyfiawnhau taith i ymweld â Chastell Barnard fel cyfle i brofi ei lygaid ar ôl gwella o Covid llynedd.
Dywedodd heddiw nad oedd yn ymddangos yn “hurt” iddo wneud y daith gyda’i wraig a’i fab.
“Pe bawn i wedi gwneud stori i fyny, byddwn i wedi dod i fyny efo un dipyn gwell na’r un yna, oni fyddwn? Mae hi’n stori mor rhyfedd,” meddai Cummings gan ddweud ei fod e’n cadw at yr hyn ddywedodd e ar y pryd.
“Y gwir yw, dim ond ychydig o ddyddiau cyn hynny ro’n i’n eistedd yn fy ngwely yn ysgrifennu ewyllys, beth i’w wneud pe bawn i’n marw.
“Fe wnes i drio esbonio hyn ar y pryd, roedd yn ymddangos i mi, ‘oce, rwyt ti’n mynd i yrru 300 milltir er mwyn mynd yn ôl i’r gwaith y diwrnod wedyn, yna dyw gyrru lawr y lôn am 30 milltir ac yn ôl er mwyn gweld sut rwyt ti’n teimlo, ar ôl dod oddi ar yr hyn rwyt ti’n ei gredu oedd yn wely angau, ddim yn ymddangos fel rhywbeth hurt.”
“Anaddas ar gyfer y swydd”
Rhai o’r materion eraill sydd wedi codi yn ystod y sesiwn yw fod Boris Johnson yn ffafrio’r dadleuon economaidd dros y rhai gwyddonol, a’i fod wedi anwybyddu cyngor i gyflwyno cyfnod clo ym mis Medi gan ei fod yn teimlo nad oedd angen.
Yn ogystal, clywodd Cummings Boris Johnson yn dweud y byddai’n “well ganddo weld cyrff yn pentyrru na chyflwyno cyfnod clo arall”.
Daeth Cummings i’r canlyniad fod Boris Johnson yn “anaddas ar gyfer y swydd”, gan ddweud bod ei benderfyniad i’w ddiswyddo yn gysylltiedig â chariad y Prif Weinidog.
Dywedodd ei bod hi’n ceisio newid apwyntiadau amrywiol yn Downing Street, a dywedodd ei bod hi wedi ceisio newid canlyniad un broses recriwtio mewn ffordd oedd yn “gwbl anfoesol”.
Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod wedi meddwl gadael ei swydd dros yr haf, ond fod nifer o bobol wedi dweud y dylai aros gan fod y pandemig am waethygu.
Ychwanegodd fod pobol yn credu y dylai e aros er mwyn “rheoli’r droli siopau [Boris Johnson]” wrth i’r hydref gyrraedd.