Annibyniaeth a chymorth i fusnesau oedd y prif bynciau trafod yn ystod sesiwn holi’r prif weinidog brynhawn heddiw (dydd Mercher, Mai 26).

Dyma oedd y sesiwn gyntaf o’i math ers etholiad y Senedd ar ddechrau’r mis, ac roedd ambell foment ddigon tanllyd yn y siambr.

Andrew RT Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, oedd yr arweinydd cyntaf i ofyn cwestiwn, ac mi ganolbwyntiodd yntau ar y caledi mae busnesau Cymru wedi ei wynebu yn ystod y pandemig.

Gyda’i gwestiwn cyntaf, mi dynnodd gopi o’r Western Mail o boced ei siaced – copi â’r pennawd ‘Busnesau wedi’u bradychu gan [y Prif Weinidog, Mark] Drakeford’ ar ei glawr.

Wrth ymateb i hynny, dywedodd y prif weinidog fod y stori yn seiliedig ar ddatganiad i’r wasg gan y Ceidwadwyr, ac mi wnaeth hynny esgor ar chwerthin swnllyd yn ei rengoedd yntau.

Mae’r stori papur newydd yn tynnu sylw at becyn £200m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau.

Ac yn ôl Andrew RT Davies, does dim sicrwydd ynghylch sut y bydd £140m yn cael ei wario, ac fe holodd am sicrwydd ynghylch hynny a sut y byddai’n cael ei wario.

Dywedodd Mark Drakeford fod hynny’n “gwestiwn da” a bod Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, yn ymchwilio i’r mater.

Hefyd, achubodd y prif weinidog ar y cyfle i ladd ar Lywodraeth Dorïaidd San Steffan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £2.3bn ar grantiau a chymorth i fusnesau, meddai, ond dim ond £1.9bn sydd wedi’i roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Parhau yn danllyd wnaeth yr awyrgylch yn y siambr, gydag Andrew RT Davies yn cyhuddo Mark Drakeford o ddefnyddio “tactegau i dynnu sylw” oddi ar ei fethiannau.

Wedi hynny, gofynnodd, ar ran y diwydiannau croeso a digwyddiadau, am syniad o sut olwg fydd ar y cyfyngiadau tua diwedd yr haf a dechrau hydref.

Dywedodd y prif weinidog fod hynny’n fater “pwysig iawn” i’w godi gan ategu y byddai’n hoffi “petaswn i’n medru rhoi ateb mwy pendant nag ydw i’n gallu”.

Ategodd y byddai’r cabinet yn ystyried dros y penwythnos nesaf a fydd Cymru yn symud i Lefel 1. Bydd angen cadw llygad gofalus ar amrywiolyn India, meddai, ac mae’n “rhaid taro balans gofalus iawn”.

Holi am ragor o bwerau i Gymru

Roedd pob un o gwestiynau Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn ymwneud â rhagor o bwerau i Gymru, ac fe ddechreuodd â beirniadaeth o Lywodraeth San Steffan.

Dywedodd fod y Llywodraeth honno yn sathru ar ddatganoli gan dynnu sylw at sawl enghraifft: twnnel ym Môr Iwerddon, cytundeb masnach Awstralia, a Deddf y Farchnad Fewnol.

“Yn fwyfwy, mae’n ymddangos mai strategaeth diddymu slei yw strategaeth San Steffan,” meddai.

Ymuno â’r feirniadaeth wnaeth Mark Drakeford gan dynnu sylw at ‘Gynllun i Gymru’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig – cynllun a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf.

Doedd dim ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru ynghylch y cynlluniau yma i greu swyddi, yn ôl y prif weinidog, ac fe ddywedodd fod y cynllun yn “fwriadol brofoclyd”.

Trodd wedyn at Geidwadwyr y Siambr a rhybuddiodd y dylai eu plaid ofalu nad yw hi’n sathru ar ddatganoli.

Yn dilyn hyn, holodd Adam Price am farn Llywodraeth Cymru ynghylch datganoli polisi lles a threthi i Gymru.

Dywedodd Mark Drakeford mai polisi ei blaid yw y dylid rhoi “ystyriaeth go iawn” i ddatganoli rhannau o’r system fudd-daliadau, ond pwysleisiodd y dylai fod yna un system fudd-daliadau ledled y Deyrnas Unedig – mae gan y system yma y “potensial i gynnal undeb y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae’r etholiad wedi dod i ben,” meddai hefyd wrth i gwestiynau Adam Price droi’n fwyfwy gwladgarol eu naws.

“Cafodd y syniad o annibyniaeth ei herio yn drylwyr yn yr etholiad yma, ac fe ddaeth pobol Cymru i benderfyniad ynghylch y mater yna.”

A’i gwestiwn olaf, wnaeth Adam Price dynnu sylw at addewid Llafur i gynnal trafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

A fydd y sgwrs “wir yn agored”, holodd, ac a fydd yna groeso i drafod annibyniaeth?

Dywedodd y prif weinidog ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu’r cynlluniau yma â phleidiau eraill y Senedd, ac y bydd “pob un posibilrwydd” yn cael eu hystyried.

Mae’n werth nodi…

Mae yna ambell agwedd diddorol ar y sesiwn sydd yn werth tynnu sylw atyn nhw.

Mae rhywfaint o drafodaeth wedi bod ynghylch y defnydd o’r Gymraeg yn y Siambr – a’r diffyg defnydd a fu yn y gorffennol – ac mae’n ymddangos y bu ymdrech sylweddol ar ran Plaid Cymru yn hyn o beth.

Roedd cyfraniadau Rhun ap Iorwerth, Cefin Campbell a Llŷr Gruffydd oll yn uniaith Gymraeg, a chafodd atebion Cymraeg eu rhoi gan y prif weinidog.

Rhun ap Iorwerth, Aelod Ynys Môn, ofynnodd gwestiwn cyntaf y sesiwn, ac roedd y cwestiwn hwnnw ynghylch problem tai haf y gogledd.

Roedd cwestiwn Cefin Campbell, yr Aelod newydd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, am yr heriau mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu.

Mae hefyd yn werth nodi bod y prif weinidog wedi cyfeirio sawl gwaith at ei awydd i gydweithio â phleidiau eraill.

O ystyried nad oes gan ei lywodraeth fwyafrif y tro hwn, bydd yn rhaid iddo ofalu nad yw’n digio’r gwrthbleidiau yn ormodol – wedi’r cyfan, mi fydd yn dibynnu ar eu cefnogaeth bob hyn a hyn!

Hefyd, â’r pleidiau bychain wedi’u gyrru allan o’r Senedd (criw a oedd yn ddigon aflonyddgar ar adegau!) tybed ai arwydd yw hyn o Siambr fwy addfwyn a chydweithiol ei natur?