Mae Menter Iaith Conwy yn dweud eu bod nhw’n chwilio am syniadau ar sut i ddefnyddio hen neuadd yn nho eu pencadlys ar sgwâr Llanrwst fel ei fod “mor amlddefnydd â phosibl” – ac i “adfywio” canol y dref.
Maen nhw eisoes wedi addasu dau lawr cyntaf adeilad hen fanc HSBC yn y dref yn swyddfeydd i Menter Iaith Conwy, Cyfieithu Cymunedol a Mentrau Iaith Cymru yn ogystal â chwmni Pensaer Codi.cyf.
Ond mae yna hen neuadd arbennig sydd wedi bod ynghudd am o leiaf 60 i 70 mlynedd pan oedd y lloriau oddi tano’n cael eu defnyddio fel banc.
“Yn amlwg roedden ni’n gwybod fod y gofod yna pan oedden ni’n prynu’r adeilad, os tasa’ chdi’n sefyll ar sgwâr Llanrwst fasa’ ti ddim callach,” eglura Meirion Davies, prif weithredwr Menter Iaith Conwy, wrth golwg360.
Gan fod y Fenter bellach yn berchen ar yr adeilad, mae’n bwriadu ei ailagor i’r cyhoedd.
Maen nhw eisoes yn gweithio efo tîm o benseiri a pheirianwyr i weld beth sydd yn ymarferol bosib i’w ddatblygu.
Roedden nhw wedi bwriadu cynnal diwrnodau cyhoeddus er mwyn i’r cyhoedd allu gweld y lle, ond bu’n rhaid eu gohirio yn sgil y pandemig Covid-19.
O ganlyniad, mae fideo wedi cael ei greu er mwyn i bobol allu gweld y gofod, gadael sylwadau a llenwi holiadur.
Bydd modd hefyd i bobol wneud trefniadau i alw heibio fel unigolion neu grwpiau bychain i gael gweld y gofod a datgan eu syniadau.
“Adfywio canol tref Llanrwst”
“Rydan ni’n awyddus i gael barn y cyhoedd cyn i ni symud ymlaen ymhellach oherwydd mae’n rhaid i ni ffeindio allan be’ sy’n bosib efo’r neuadd,” meddai wedyn.
“Yn y bôn, mi faswn i’n hoffi gweld o’n dod yn ofod mor amlddefnydd ag sy’n bosibl a bod o yn cael defnydd megis gweithgareddau nos, pethau fel cylch meithrin yn y dydd a bod pobol yn gallu gweithio oddi yno yn lle gorfod teithio o Lanrwst.
“Pob math o bethau a dweud y gwir, rydan ni’n eithaf agored i syniadau.
“Rydan ni’n awyddus i weld y lle’n chwarae rhan yn adfywio canol y dref ac yn amlwg, bod y Gymraeg yn rhan annatod o hynny.”
Mae buddsoddi yn nhref Llanrwst yn “hanfodol” yn dilyn pandemig y coronafeirws, meddai.
Ychwanega ei fod yn rhagweld y bydd angen buddsoddiad o “o leiaf chwarter miliwn yn y lle”.
“Sgerbwd ydi o rŵan, does yna ddim byd wedi bod i fyny yna ers hanner can mlynedd a mwy, does yna ddim trydan i fyny yna na insulation, dim gwres, dim byd fel’na.
“Ond mae hwn yn gyfle i adeiladu arno fo.”