Mae uwchgynhadledd Covid-19 ar gyfer pedair gwlad Prydain wedi cael ei gohirio er mwyn rhoi mwy o amser i lywodraethau Cymru a’r Alban baratoi, yn ôl Downing Street.
Roedd Mark Drakeford a Nicola Sturgeon wedi bod yn galw am “drafodaeth ystyrlon gyda chanlyniadau sylweddol”, ac am ragor o eglurder a sylwedd ynghylch yr hyn oedd yn cael ei gynnig ganddo.
Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei haildrefnu “cyn gynted â phosib”, meddai Downing Street, ond does dim dyddiad wedi’i bennu eto.
Yn ôl llefarydd ar ran Boris Johnson, prif weinidog Prydain, “mae angen i ni oresgyn heriau sylweddol adferiad Covid gyda’r un ysbryd o undod a chydweithrediad ag y gwelsom yn ystod y frwydr yn erbyn y pandemig”.
Ond mae hefyd yn dweud ei bod yn “destun siom fod yn well gan Lywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ohirio’r cyfarfod hwn… yn enwedig o ystyried graddfa’r her honno”, ond maen nhw’n dweud eu bod “wedi ymrwymo o hyd i’r ysbryd hynny o gydweithrediad”.
Llythyr yn beirniadu
Yn eu llythyr, roedd Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, ynghyd ag Arlene Foster a Michelle O’Neill yn beirniadu swyddfa Boris Johnson am anfon “agenda bras iawn” heb lawer o fanylion.
Fe wnaethon nhw alw hefyd am “drafodaeth bellach” cyn yr uwchgynhadledd.