Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £19m ychwanegol er mwyn cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar ac addysg.

Mae dros £150m wedi’i wario ar addysg i bobol ifanc o dan 18 oed ers dechrau’r pandemig.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod plant yn parhau i ddysgu a datblygu ar ôl y tarfu ar eu haddysg yn sgil Covid-19, gyda’r ffocws ar lesiant plant a staff.

Mae £13m wedi ei glustnodi ar gyfer cymorth ychwanegol i ddysgwyr y blynyddoedd cynnar, mewn lleoliadau ac ysgolion lle nad yw’n bod ar hyn o bryd.

Bydd yn talu am gynnydd yn nifer yr ymarferwyr o gymharu â nifer y dysgwyr mewn ysgolion, ac am gymorth addysg er mwyn helpu i sicrhau profiad dysgu sy’n cael ei gefnogi, chwarae actif, a dysgu drwy brofiad.

Bydd y £6m arall yn cael ei ddyrannu i ysgolion er mwyn cefnogi staff addysgu, hyrwyddo lleisiant a chynnydd ac i ehangu’r newidiadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u gwneud i’r ffyrdd o weithio.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu 1,800 o staff addysgu llawn amser ychwanegol drwy’r rhaglen ‘Recriwtio, Adfer, a Chodi Safonau”.

“Rhaid inni adfer a newid”

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi ei gwneud yn amlwg pa mor bwysig yw’n hysgolion, ein colegau, ein prifysgolion a’n lleoliadau addysg i’n plant a’n pobol ifanc,” meddai Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg.

“Mae ymarferwyr addysg wedi ymateb i’r her, ac mae’r dysgwyr wedi addasu’n arbennig i’r ffyrdd gwahanol o ddysgu.

“Mae’n hanfodol i’n dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar gael cyfleoedd i ryngweithio mewn ffordd ystyrlon ac o safon.

“Heddiw, rwy’n cyhoeddi £13m o bunnoedd yn ychwanegol i leoliadau blynyddoedd cynnar er mwyn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer anghenion unigryw ein plant iau.

“Mae’n rhaid inni adfer a newid. Rwy’n benderfynol o adeiladu ar y pwyslais ar lesiant a hyblygrwydd a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

“Mae ein system addysg wedi dangos ei bod yn hynod o gadarn a hyblyg ac mae’n rhaid inni ddysgu o hynny.”