Mae llefarydd ar ran mudiad iaith a drefnodd y gwrthdystio ger adeilad Cynulliad Gogledd Iwerddon, yn dweud eu bod nhw “eisiau manteisio ar yr hawliau mae pobol eraill yn medru manteisio arnyn nhw”.
Conchúr Ó Muadaigh yw un o lefarwyr mudiad iaith An Dream Dearg (Llawn Llid/y Mudiad Coch), sef y grŵp a drefnodd y gwrthdystio ger adeilad Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Wedi tair blynedd o anghydfod, cafodd grym yn Stormont ei adfer yn 2020, a daeth bargen rhwng y ddwy brif blaid, Sinn Féin a’r DUP (Democratic Ulster Unionists).
Fel rhan o’r cytundeb ‘New Decade, New Approach’, roedd cytundeb y byddai camau yn cael eu rhoi ar waith i ddyrchafu statws y Wyddeleg (a Sgots Ulster).
Aros o hyd mae siaradwyr Gwyddeleg am y camau a gafodd eu haddo, a chafodd digwyddiad ei gynnal ddoe i nodi 500 diwrnod ers taro’r ddêl.
Am fod y Wyddeleg yn cael ei ystyried yn fater gwleidyddol, a yw’n bosib y bydd y cynlluniau byth yn gweld golau dydd? Mater o hawliau yw hyn, yn ôl yr ymgyrchydd iaith yn ymateb i hynny.
‘Olion bydolwg trefedigaethol’
“Dyma rywbeth sy’n digwydd ledled y byd oddi fewn i wledydd sydd yn ceisio adfer ieithoedd lleiafrifol,” meddai Conchúr Ó Muadaigh wrth golwg360.
“Mae’r [fath weithredu] wedi ei wreiddio mewn cytundebau rhyngwladol – y siarteri Ewropeaidd, a datganiad hawliau’r Cenhedloedd Unedig.
“Rydym ni ond yn gofyn am yr hyn sy’n bodoli mewn rhannau eraill o’r ynysoedd yma, yn yr Alban a Chymru. Rydym ni eisiau manteisio ar yr hawliau mae pobol eraill yn medru manteisio arnyn nhw.
“Mae yna olion bydolwg trefedigaethol yma, lle mae pobol yn credu bod ganddyn nhw’r hawl i beidio â chlywed [y Wyddeleg], ac i beidio [ei] gweld,” atega. “Ond nid yw’r fath hawl yn bodoli.”
Mae Conchúr Ó Muadaigh yn egluro bod ei bartner yn hanu o Monaghan, tref yng Ngweriniaeth Iwerddon sy’n agos iawn at y ffin â Gogledd Iwerddon.
Bellach mae hi’n byw yn Belffast ac mae’n anniddig am nad yw’n medru cael at wasanaethau cyhoeddus yno trwy’r Wyddeleg – fel sydd yn bosib yn y weriniaeth.
Beio’r DUP
Cafodd y ddêl ‘New Decade New Approach’ ei sefydlu fis Ionawr y llynedd, ddeufis cyn i’r pandemig danio go iawn – felly tybed a yw hyn wedi achosi oedi wrth gyflwyno deddfwriaeth iaith?
Dyw’r ymgyrchydd iaith ddim yn siŵr am yr esgus hynny, ac mae yntau o’r farn mae gwleidyddiaeth sydd ar fai.
“Doedden ni ddim yn gwybod y byddai covid yn taro ym mis Mawrth 2020,” meddai.
“A byddem yn disgwyl oedi yn ystod y misoedd cyntaf rheiny tra bod adrannau llywodraethol, cyrff cyhoeddus, gweision sifil, a’r rheiny ar y rheng flaen, yn cyfarwyddo.
“Does dim amau yr oedd yna bwysau ar wasanaethau cyhoeddus, a does dim angen tynnu oddi ar hynny. Fodd bynnag, mi ddychwelodd rhywfaint o normalrwydd o fis Medi ymlaen.
“Rydym yn medru cerdded a chnoi gwm, ac yn wynebu’r heriau o ddydd i ddydd sy’n wynebu llywodraeth – boed yn iechyd, addysg, tlodi, neu ddiogelu iaith leiafrifol frodorol y Wyddeleg.
“O fis Medi ymlaen, rydym ni’n credu bod ymdrech wedi bod ar waith yn wleidyddol, a gan y DUP, i beidio â chyflwyno deddfwriaeth iaith.”
Mae’r DUP yn “wrthwynebus” i’r iaith Wyddeleg, yn ôl yr ymgyrchydd, ac mae hynny’n “ddigon hysbys”.
Os na fydd y blaid honno yn “cadw at ei gair”, a chaniatáu pasio deddfwriaeth iaith, mae Conchúr Ó Muadaigh yn credu y bydd “cwestiynau mawr” yn cael eu codi am allu Stormont i ddiogelu hawliau iaith.
Mae’r ymgyrchydd yn gwrthod dweud a yw’n fwy gobeithiol am hawliau iaith Gwyddeleg gydag Edwin Poots yn arweinydd ar y DUP (fe fydd yn olynu Arlene Foster ddiwedd yr wythnos).
Statws y Wyddeleg
Mae’r iaith Wyddeleg yn fater hynod danllyd yng Ngogledd Iwerddon, gydag unoliaethwyr yn cysylltu’r iaith ag achos y cenedlaetholwyr.
Fel rhan o’r cytundeb ‘New Decade, New Approach’, roedd cydsyniad na fyddai yna Ddeddf Iaith Wyddeleg, ond cafodd llu o ymrwymiadau yn ymwneud â’r iaith eu hamlinellu.
Cytunodd Sinn Féin a’r DUP y byddai Deddf Gogledd Iwerddon 1998 yn cael ei haddasu, ac y byddai llu o bolisïau yn cael eu cyflwyno.
Roedd addewidion i roi statws swyddogol i’r Wyddeleg a Sgots Ulster, ac i sefydlu rôl Comisiynydd Iaith Wyddeleg (tebyg i Gomisiynydd y Gymraeg yng Nghymru).
Hefyd, ymrwymodd y pleidiau i gyflwyno safonau iaith (tebyg i’r safonau yng Nghymru) ac i sefydlu uned gyfieithu oddi mewn i Lywodraeth Gogledd Iwerddon.
Ddechrau mis Ebrill, fe wnaeth mudiad iaith Conradh na Gaeilge danio her gyfreithiol yn erbyn Cangen Weithredol Gogledd Iwerddon.
Ymateb oedd hyn i’r ffaith nad oedd strategaeth iaith Wyddeleg wedi ei mabwysiadu, a’r ffaith nad oedd y ddeddfwriaeth a gafodd ei hamlinellu yn y ddêl wedi cael ei gweithredu.