Mae Dominic Cummings yn dweud bod Matt Hancock “yn hollol anghywir” i honni nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu gadael i Covid-19 ledaenu drwy’r boblogaeth.
Eisoes, mae e wedi beirniadu Johnson, yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock a nifer o aelodau blaenllaw eraill o’r llywodraeth ers iddo fe adael ei swydd fis Tachwedd y llynedd.
Yn ystod y cwestiynu, fe wnaeth e hefyd ddweud y dylai Hancock fod wedi cael ei ddiswyddo am o leiaf 20 peth “gan gynnwys dweud celwydd wrth bawb ar sawl achlysur”.
Yn ogystal â gwneud honiadau am Hancock, mae Cummings wedi dweud ei fod yn “fethiant anferth” ar ei ran i beidio â chynghori’r Prif Weinidog i gefnu ar imiwnedd torfol yn gynharach.
Yn ôl Cummings, fe wnaeth prif swyddion y Cabinet sylweddoli bod y Deyrnas Unedig yn symud tuag at drychineb ar Fawrth 13, ond nad oedd ganddyn nhw gynllun ar gyfer cyflwyno cyfnod clo.
Imiwnedd torfol
Wrth gael ei gwestiynu, dywedodd Dominic Cummings mai’r syniad gwreiddiol “oedd gadael i’r afiechyd ledaenu”, gan feddwl “na fyddai brechlynnau ar gael yn 2020”.
“Byddai Covid yn cyrraedd, byddai yna gynnydd sydyn mewn achosion,” meddai.
“Byddai mesurau’n cael eu rhoi yn eu lle i wthio’r brig mewn achosion i lawr, fel bod y Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi.”
Dywed Cummings fod y Llywodraeth wedi dadlau na fyddai’r cyhoedd yn fodlon derbyn cyfnodau clo na’r systemau profi ac olrhain.
“Daeth yr opsiynau’n amlwg wedyn: naill ai un don ddrwg; neu ddwy don, gyda’r ail yn y gaeaf a fyddai’n waeth.”
Dywed nad oedd neb eisiau i hynny ddigwydd, ond eu bod nhw’n credu ei bod yn “anochel”, ac mai’r opsiynau oedd cyrraedd imiwnedd torfol ar ôl un don ym mis Medi, neu fis Ionawr ar ôl ail don.
Dyna oedd y meddylfryd tan dydd Gwener, Mawrth 13 y llynedd, yn ôl Dominic Cummings.
Ar Fawrth 15, dywedodd Matt Hancock fod gan y llywodraeth gynllun, ac nad oedd imiwnedd torfol yn rhan ohono.
Yn ôl Cummings, roedd hynny’n “hollol anghywir”, ac mae’n “ddirgelwch iddo” fod Hancock nawr yn gwadu hynny.
“Dweud celwydd wrth bawb”
Yn ystod y cwestiynu, fe wnaeth e hefyd ddweud y dylai Hancock fod wedi cael ei ddiswyddo am o leiaf 20 peth “gan gynnwys dweud celwydd wrth bawb ar sawl achlysur”.
Gan fanylu ar enghreifftiau, cyfeiriodd Cummings at y ffaith fod Hancock wedi dweud dros yr haf fod pawb wedi cael y driniaeth yr oedden nhw ei hangen ar gyfer Covid.
Ond yn ôl Cummings, cafodd Hancock wybod gan y prif ymgynghorydd gwyddonol a’r prif ymgynghorydd meddygol nad oedd rhai pobol wedi derbyn y driniaeth yr oedden nhw ei hangen.
Mae e hefyd wedi gwneud honiadau nad oedd digon o gyfarpar diogelwch personol ar gael yn ystod y don gyntaf, ac fe wnaeth e feio prif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Lloegr a’r canghellor pan gafodd ei herio am y mater.
Dywedodd Hancock nad ei fai e oedd hynny, yn ôl Cummings – sy’n dweud bod ganddo fe dystiolaeth i brofi’r honiadau hyn.
“Methiant anferth”
Wrth gael ei holi, fe wnaeth Cummings ymddiheuro sawl gwaith nad oedd e wedi gwneud mwy i gyflwyno cyfnod clo ynghynt, a bod cymryd mor hir i gynghori’r prif weinidog fod angen newid y cynllun yn “fethiant anferth” ar ei ran.
Dywedodd ei bod hi’n glir y dylai’r cyfnod clo fod wedi dechrau yn wythnos gyntaf mis Mawrth, yn hytrach nag ar Fawrth 23.
“Dw i’n difaru’n ofnadwy mod i heb bwyso’r botwm panig yn gynt nag y gwnes i,” meddai.
“Wrth edrych yn ôl, does dim amheuaeth fy mod i’n anghywir.”
Yn ôl Cummings, fe wnaeth prif swyddogion y Cabinet sylweddoli fod y Deyrnas Unedig yn “gwbl f*****” ar Fawrth 13.
Ar Fawrth 12, fe wnaeth e yrru neges at y prif weinidog yn dweud bod Swyddfa’r Cabinet yn “terrifyingly s***”, ac y dylai Boris Johnson ddweud wrth bobol â symptomau i aros adre’ ar unwaith.
Wrth fynd yn ei flaen i ddisgrifio’r diwrnod fel un “afreal”, dywedodd ei fod e wedi siarad gyda Ben Warner, gwyddonydd ystadegol, a’i frawd am y ffaith fod eu cynllun ar gyfer imiwnedd torfol yn ddiffygiol.
Yn ystod y diwrnod, cafodd Boris Johnson wybod gan Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, ei fod e am i’r Deyrnas Unedig ymuno mewn ymgyrch fomio yn erbyn y Dwyrain Canol, a bod y cyfarfod Cobra Covid wedi’i ohirio yn sgil hynny.
I ychwanegu at “afrealrwydd” y diwrnod, meddai, fe wnaeth The Times stori am Boris Johnson, ei gariad, a’u ci, ac roedd Carrie Symonds am i swyddfa’r wasg ganolbwyntio ar hynny.
“Roedd hi’n mynd yn wyllt dros rywbeth hollol ddibwys,” meddai Cummings.
Yn y diwedd, fe wnaethon nhw benderfynu mynd yn eu blaenau a chynghori pobol i hunanynysu, a pheidio ag ymuno yn yr ymgyrch fomio.
Y diwrnod wedyn, fe wnaeth e siarad â Syr Patrick Vallance, prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethon nhw sylweddoli y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei lethu o ddilyn y cynllun.
Wrth drafod cynllun newydd gyda Ben Warner y noson honno, daeth Helen MacNamara, y gwas sifil mwyaf pwerus oni bai am Cummings, i mewn gan ddweud ei bod hi wedi bod yn siarad â swyddog o’r Adran Iechyd.
Dywedodd y swyddog nad oedd cynllun, a bod y llywodraeth mewn trafferth.
Ychwanegodd Helen MacNamara eu bod nhw’n “gwbl f*****”, a bod y wlad yn symud tuag at drychineb, a sylweddolodd hi fod Cummings a Warner wedi dod i’r un casgliad.
Dywedodd Cummings wrth Boris Johnson ar Fawrth 14 fod rhaid cael cyfnod clo, ond doedd dim cynllun yn ei le ar gyfer cyfnod clo.
Rhagor o honiadau
Ar un adeg, dywedodd un ysgrifennydd cabinet wrth y prif weinidog am ddefnyddio cyfweliad teledu er mwyn cymharu’r coronafeirws â brech yr ieir, yn ôl Cummings.
Mae Cummings yn honni bod Mark Sedwill wedi dweud y dylai Boris Johnson fynd ar y teledu a dweud fod y cynllun imiwnedd torfol fel partïon brech yr ieir, lle’r oedd pobol yn ei ddal ar bwrpas.
Dywedodd wrth Sedwill i beidio â defnyddio’r gymhariaeth honno, oherwydd nad yw’r coronafeirws yn ymddwyn fel brech yr ieir gan fod y potensial iddo ledaenu’n sydyn a lladd miloedd o bobol.
Yn ogystal, mae Cummings wedi awgrymu bod Johnson wedi siarad am gael ei heintio â’r feirws yn fyw ar y teledu mewn ymdrech i ddangos i’r boblogaeth fod popeth yn iawn.