Mae Cymru wedi rhoi un dos o’r brechlyn i gyfradd uwch o’i phoblogaeth nag unrhyw wlad arall, oni bai am rai eithriadol o fychan.
Yn ddiweddar, mae Cymru wedi pasio Israel o ran dos cyntaf hyd yn oed, gydag 83% o oedolion y wlad wedi derbyn dos cyntaf.
Mae’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ychydig dros 70%.
Ond pam fod Cymru’n gwneud cymaint yn well na gweddill y Deyrnas Unedig?
Un dyn sydd wedi ceisio ateb hynny yw Paul Maywood, academydd sydd wedi troi’n ymgynghorydd strategaeth.
Darganfuwyd nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi ffigyrau ar faint o stoc brechlynnau sydd gan y wlad, tra bod llywodraethau Cymru a’r Alban yn gwneud hynny.
“Pob wythnos, mae llywodraethau hynny yn diweddaru dau rif ar eu gwefannau, mae rhai’r Alban yn dod allan bod dydd Mawrth am 2 o’r gloch, tra bod Cymru’n gwneud am 9:30 o’r gloch ddydd Mercher,” meddai ar y rhaglen ‘More or Less’ ar Radio 4.
“Y cyntaf o’r rhifau hyn ydi cyfanswm sawl dos o’r brechlyn sydd wedi cael eu dyrannu gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, sy’n gweinyddu hyn yn ganolog, i’r Alban a Chymru.
“Yr ail rif ydi sut maen nhw’n dyrannu’r dosau fesul gwlad, ac mae hynny’n fater o record, maen nhw’n defnyddio Fformiwla Barnett.
“Felly mae’r Alban yn cael 8.2%, mae Cymru’n derbyn 4.7% ac wedyn mae modd cyfrifo’n ôl ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon.”
Cymru “ar frys”
Ond sut mae hynny yn effeithio nifer y bobol sydd wedi derbyn y brechlyn?
“Dyna lle mae pethau’n mynd yn ddiddorol,” meddai Paul Maywood.
“Beth rydym yn gallu ei weld ydi bod Cymru yn benodol ar frys.
“Felly bob wythnos, maen nhw’n cymryd yr holl frechiadau sydd wedi’u dyrannu er mwyn ei ddosbarthu o fewn cwpwl o ddiwrnodau.
“Mae hynny yn wahanol i’r Alban, sy’n aros yn agosach i 10 neu 12 diwrnod cyn gallu eu dosbarthu.
“Ac wedyn o’r pwynt yna, mae modd gweld turnaround cyflym arall lle mae Cymru yn rhoi brechlynnau i’r boblogaeth bron iawn yn syth.
“Maen nhw’n cael y brechlynnau drwy’r system yn gyflym dros ben ac o ganlyniad maen nhw gwpwl o wythnosau o flaen gweddill y Deyrnas Unedig o ran cyfanswm dosau.”