Mae cyfreithiwr a dau gyn-blismon oedd yn wynebu cyhuddiadau mewn perthynas â thrychineb Hillsborough wedi’u cael yn ddieuog.
Roedd Peter Metcalf (71), Donald Denton (83) ac Alan Foster (74) yn wynebu dau gyhuddiad yr un o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn trychineb Hillsborough.
Roedd hyn mewn perthynas â golygu ac addasu dogfennau ar ôl i nifer o bobol roi tystiolaeth yn dilyn y trychineb yn stadiwm pêl-droed Sheffield Wednesday ar Ebrill 15, 1989.
Mae’r barnwr yn yr achos wedi penderfynu nad oes sail i’r achos.
Ymateb Gwasanaeth Erlyn y Goron
Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron, “all geiriau ddim disgrifio torcalon llwyr trychineb Hillsborough a’i effaith ar deuluoedd a ffrindiau’r 96 fu farw, a’r cannoedd yn rhagor a gafodd eu hanafu”.
“Yn flaenorol, mae Ymchwiliad Taylor, Cwest Popper, Ymchwiliad Stuart Smith, erlyniad preifat, proses Panel Annibynnol Hillsborough, cwest newydd a dau achos troseddol pellach wedi archwilio’r hyn ddigwyddodd yn Stadiwm Hillsborough ar Ebrill 15,1989,” meddai.
“Mae’r digwyddiadau ofnadwy y diwrnod hwnnw hefyd wedi bod yn gysgod tros fywydau teuluoedd a ffrindiau’r holl bobol hynny fu farw.
“Maen nhw’n byw â galar hyd heddiw.
“Maen nhw wedi wynebu honiadau ffug am ymddygiad cefnogwyr Lerpwl eu bod nhw ynghlwm wrth achosi’r marwolaethau hynny.
“Mae achosion go iawn y trychineb wedi’u harchwilio mewn gwrandawiadau pellach a chafodd ymddygiad cefnogwyr ei eithrio’n llwyr fel achos.
“Yn syml iawn, cefnogwyr pêl-droed oedden nhw oedd yn mynd i gêm bêl-droed i gefnogi eu tîm.
“Cafodd eu hanwyliaid eu lladd yn anghyfreithlon yn sgil esgeulustod eraill.”