Mae Gemma Grainger wedi enwi ei charfan ar gyfer gêm gyfeillgar tîm pêl-droed merched Cymru yn erbyn yr Alban ym Mharc y Scarlets ar ddydd Mawrth, 15 Mehefin.

Y tro olaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd oedd yng Nghwpan Cyprus 2017, gyda’r Alban yn ennill o 6-5 ar giciau o’r smotyn yn dilyn gêm ddi-sgôr.

Mae’r Albanwyr, a gymhwysodd ar gyfer Cwpan y Byd 2019, yn 23ain yn y byd tra bod Cymru’n 32ain.

Megan Wynne yn dychwelyd

Mae’r ymosodwr Megan Wynne yn ôl yn y garfan ar ôl dychwelyd i’w chlwb, Bristol City, ar gyfer gêm ola’r tymor.

Roedd hi wedi rhwygo ei ACL (anterior cruciate ligament) ym mis Awst, gan fethu rhan fwya’r tymor.

Chwaraeodd Wynne dros Gymru ddiwethaf ym mis Mawrth 2020 pan sgoriodd hi yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Estonia yn Wrecsam.

Mae Jess Fishlock ac Angharad James ar gael, tra bod Hayley Ladd o Manchester United yn holliach ar ôl colli’r gemau fis diwethaf yn erbyn Canada a Denmarc efo anafiadau.

Mae Ceri Holland, chwaraewr canol cae Lerpwl, a wnaeth ei hymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn Canada, wedi ei hanafu ac yn colli allan.

Paratoi at ymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd

Hon yw gêm gyfeillgar olaf Cymru cyn i’w hymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd ddechrau ym mis Medi.

Bydd Cymru yn herio Ffrainc, Slofenia, Gwlad Groeg, Estonia a Kazakhstan yn ei grŵp.

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Gwener, 17 Medi gartref yn erbyn Kazakhstan.

Y garfan

Laura O’Sullivan, Olivia Clark, Poppy Soper, Rhiannon Roberts, Gemma Evans, Maria Francis-Jones, Charlie Estcourt, Hayley Ladd, Josie Green, Elise Hughes, Anna Filbey, Sophie Ingle, Angharad James, Jess Fishlock, Carrie Jones, Kayleigh Green, Natasha Harding, Rachel Rowe, Helen Ward, Lily Woodham, Georgia Walters, Ffion Morgan, Esther Morgan, Megan Wynne, Bethan Roberts, Chloe Williams.