Mae’n bosib y caiff hyd at 10,000 o gefnogwyr fynd i wylio gemau rygbi rhyngwladol Cymru dros yr haf.

Bydd tîm Wayne Pivac yn herio Canada ar Orffennaf 3, cyn chwarae dwy gêm yn olynol yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm Principality ar Orffennaf 10 ac 17.

Mae’r gemau yn disodli’r daith i’r Ariannin a gafodd ei chanslo oherwydd y pandemig Covid-19 a’r ansicrwydd ynghylch cyfyngiadau teithio.

Yn ôl Steve Phillips, pennaeth Undeb Rygbi Cymru, “y gobaith ydi cyrraedd 10,000”, ac mae disgwyl cadarnhad ddechrau mis Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi caniatáu nifer o ddigwyddiadau prawf gyda thorfeydd yn ddiweddar, ond does yna’r un gêm rygbi wedi cael ei chwarae o flaen torf yng Nghymru hyd yma.

“Roedd 10,000 yn Twickenham y penwythnos diwetha’ ar gyfer y rowndiau terfynol Ewropeaidd a bydd gan y Llewod 17,000 yn Murrayfield ar 26 Mehefin,” meddai Steve Phillips.

“Cyn belled â bod Llywodraeth Cymru’n fodlon gyda’r amrywiolyn Indiaidd, fe fydden ni’n obeithiol am y gemau’n erbyn Canada ac Ariannin.”

Cymru i herio Canada a’r Ariannin ym mis Gorffennaf

Mae’r gemau yn disodli’r daith i’r Ariannin a gafodd ei chanslo oherwydd pandemig y coronafeirws