Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn chwarae tair gêm ryngwladol ym mis Gorffennaf.

Bydd tîm Wayne Pivac yn herio Canada ar Orffennaf 3, cyn chwarae dwy gêm yn olynol yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Principality ar Orffennaf 10 ac 17.

Mae’r gemau yn disodli’r daith i’r Ariannin a gafodd ei chanslo oherwydd pandemig y coronafeirws ac ansicrwydd ynghylch cyfyngiadau teithio.

Bydd Canada, sy’n cael eu hyfforddi gan ddau gyn-gapten Cymru, Kingsley Jones a Rob Howley, yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf ers 2008.

“Cyfle enfawr”

“Rydym yn edrych ymlaen at yr haf hwn, y cyfle y mae’n ei gyflwyno, ac rydym yn falch iawn o gael tri phrawf wedi’u cadarnhau,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.

“Mae’n siomedig peidio cael y cyfle i fynd ar daith o amgylch yr Ariannin, yn enwedig ar ôl i’n taith i Seland Newydd yn 2020 gael ei chanslo, ond yn yr hinsawdd sydd ohoni mae’n gwbl ddealladwy.

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod gennym gemau ac fel yr ydym wedi dweud o’r cychwyn, mae’r haf hwn yn gyfle enfawr i ni.”

Wayne Pivac yn “falch” bod 10 Cymro yng ngharfan y Llewod

Ychwanegodd Wayne Pivac: “Rydym yn hapus ac yn falch o gael 10 chwaraewr wedi’u dewis ar gyfer Llewod Prydain ac Iwerddon, mae’n wobr am eu holl waith caled ac rydym yn dymuno’r gorau iddynt yr haf hwn.

“Gyda’r chwaraewyr hynny i ffwrdd, rydym wastad wedi clustnodi’r haf hwn fel cyfle datblygu pwysig i ni.

“Mae’n gyfle i ddod â chwaraewyr newydd i’r amgylchedd hwn, edrych arnynt yn ofalus a’u hamlygu i gael profiad.

“Mae hefyd yn gyfle i chwaraewyr rhyngwladol presennol gamu i fyny i rolau arwain pellach o fewn y garfan, felly mae’n wersyll pwysig wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan y Byd 2023.”