Mae Liz Truss wedi galw ar ffermwyr i “stopio bod yn amddiffynnol, ac edrych ar le mae’r cyfleoedd” ynghylch y cytundeb ag Awstralia.
Mynnodd Ysgrifennydd Masnach y Deyrnas Unedig y bydd digon o gyfleoedd i ffermwyr, a chynhyrchwyr, werthu eu cynnyrch ar y farchnad yn sgil y cytundeb.
Ond mae’r cytundeb masnach arfaethedig rhwng y Deyrnas Unedig ag Awstralia yn peryglu “niweidio” hyfywdra a chynaliadwyedd sectorau ffermio ac amaethyddol Cymru, meddai Plaid Cymru
Dywedodd Liz Truss wrth Good Morning Britain y bydd y cytundeb yn “garreg lam” at bartneriaeth Draws-Atlantaidd, ac ychwanegodd ei bod hi’n gwrthod pryderon ffermwyr.
Mae disgwyl i’r cytundeb arwain at gynnydd o 0.01% i 0.02% yn unig yn economi’r Deyrnas Unedig o’i gymharu â’r amcangyfrif o 4% o ergyd hirdymor i gynhyrchiant y DU o ganlyniad i Brexit.
“Edrych am allan”
Bydd cyfnod pontio o bymtheg mlynedd cyn y bydd cynnyrch o Awstralia’n gallu cael ei werthu ym marchnad y Deyrnas Unedig yn ddi-dariff, esboniodd Liz Truss wrth Sky News.
“Mae’n rhaid i ni edrych am allan,” meddai.
“Dw i’n meddwl fod rhaid i ni stopio bod yn amddiffynnol, ac edrych ar le mae’r cyfleoedd.”
Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd arweinydd yr SNP yn San Steffan Ian Blackford fod y cytundeb “ddinistriol” wedi “talu ffermwyr a chrofftwyr yr Alban dan fws Brexit”.
Pwysodd Ian Blackford ar Boris Johnson i adael i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio ar y cytundeb. Dywedodd Boris Johnson fod “pobol y wlad wedi pleidleisio dros y Llywodraeth hon i weithredu a chyflwyno bargeinion masnach rydd â gwledydd o amgylch y byd, a dw i’n credu eu bod nhw’n hollol iawn”.
‘Rheolaeth’
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth a materion gwledig Cefin Campbell y dylai Llywodraeth Cymru amlinellu sut y byddan nhw’n cefnogi ffermwyr Cymru i sicrhau “hyfywdra economaidd parhaus ffermwyr Cymru” yn dilyn y cytundeb.
Dywedodd: “Mae ffermydd Cymru yn helpu i gefnogi sector bwyd a diod Cymru sy’n werth £7.5biliwn i’n heconomi, a hi yw cyflogwr mwyaf Cymru.
“Fe ddywedon nhw ei fod yn ymwneud â “chymryd rheolaeth yn ôl” ond mae’n gwbl annerbyniol na fydd Senedd Cymru, heb sôn am senedd San Steffan, yn cael y cyfle i gadarnhau a phleidleisio ar gytundebau masnach newydd a fydd yn cael effeithiau hirdymor ar ffermio yng Nghymru.
“At hynny, gyda’r Torïaid eisoes wedi torri addewidion ar ariannu ffermydd ers Brexit, mae’n amlwg i bawb weld na all ffermwyr Cymru ymddiried yn y Torïaid mwyach i sefyll dros eu buddiannau.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr amlinellu’n fanwl sut maen nhw’n bwriadu cefnogi ffermwyr Cymru i sicrhau hyfywdra economaidd parhaus ffermwyr Cymru yn dilyn y cytundeb hwn.”