A’r drafodaeth am yr argyfwng tai haf yn parhau i ddwysáu, mae Cyngor Sir Benfro wedi lansio ymgynghoriad ar godi premiwm y dreth cyngor ymhellach.

Ar hyn o bryd mae’r bobol rheiny sydd yn berchen ar ail gartref yn y sir yn gorfod talu premiwm 50% ar y dreth cyngor (hynny yw, 50% ar ben y swm arferol).

Ond yn sgil pryderon am effaith tai haf ar gymunedau’r sir, mae’r cyngor bellach wedi lansio ymgynghoriad i weld os ddylai’r premiwm yma fod yn uwch.

Yn ôl ffigurau swyddogol cafodd 24,873 eu cofrestru yng Nghymru at ddibenion treth Cyngor ym mis Ionawr 2021. Gwynedd oedd â’r nifer uchaf (5,098) gyda Sir Benfro yn ail (4,068).

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn ystyried cartrefi gwag, ac mi fydd yn dod i ben ar Orffennaf 26. Mae Bob Kilmister, Aelod Cabinet dros Gyllid, wedi annog pobol Sir Benfro i gymryd rhan.

“Gorau po fwyaf o adborth a gawn ar y mater hwn,” meddai’r cynghorydd. “Mae ail gartrefi ac eiddo gwag yn fater na allwn ei anwybyddu.

“Er bod pobl o rannau eraill o’r  DU yn ei gweld yn gymharol hawdd fforddio eiddo yn Sir Benfro, mae’n anoddach o lawer i’r rhai sy’n byw ac yn ennill arian yn lleol.

“Mae cyfran uchel o ail gartrefi mewn cymuned yn bygwth hyfywedd ysgolion lleol a chyfleoedd i feithrin a chynyddu’r Gymraeg hefyd.”

Ymgynghori

Mi gyflwynodd Cyngor Sir Benfro ei bremiwm treth cyngor 50% yn 2017, ac ochr yn ochr â hynny cyflwynwyd premiwm 100% ar gartrefi gwag.

Mae’r arian sy’n cael ei godi trwy’r premiymau yma yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad tai fforddiadwy, a darparu grantiau i brosiectau lleol drwy gronfa Grant Gwella Sir Benfro.

Cynigir pedwar opsiwn yn yr ymgynghoriad ar gyfer ail gartrefi sef: gostwng y premiwm i 25%, cadw’r premiwm yn 50%, cynyddu’r premiwm i 75%, neu ddyblu’r premiwm i 100%.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yma: https://dweudeichdweud.sir-benfro.gov.uk/adolygiad-o-ail-gartrefi-a-chartrefi-gwag-hirdymor-yn-sir-benfro

Llai yn talu

Yn ôl dogfen yr ymgynghoriad mae nifer yr ail gartrefi sy’n gorfod talu’r premiwm wedi disgyn gan 6% rhwng mis Hydref 2017 a mis Hydref 2021.

Mae hyn wedi digwydd oherwydd “cynnydd yn nifer yr eithriadau” i’r premiwm, a phobol yn cofrestru eu hail gartrefi yn fusnesau (ac felly dydyn nhw ddim yn gorfod talu treth cyngor o gwbl).

Premiymau yng Nghymru

Ers 2017 mae cynghorau Cymru yn medru codi premiwm hyd at 100% ar ail gartrefi.

Ac ym mlwyddyn ariannol 2020/21 roedd wyth cyngor yn codi premiwm.

Roedd Conwy a Cheredigion wedi bod yn codi 25%, mae Ynys Môn wedi bod yn codi 35%, tra bod Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys, a Sir Benfro wedi bod yn codi 50%.

Mae Cyngor Abertawe a Chyngor Gwynedd bellach yn codi premiwm 100%.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi dechrau ymgynghoriad ar godi’r premiwm i 50%, ac mae Cyngor Ceredigion wrthi’n ystyried cymryd camau i godi’r premiwm i 100%.

Cynyddu premiwm treth ar ail gartrefi o 50% i 100% yng Ngwynedd

O’r wyth awdurdod lleol sy’n codi’r premiwm ar ail gartrefi nid oedd yr un ohonynt cyn hyn yn codi mwy na 50%