Mae swyddog carchar yn Abertawe wedi cael ei anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei drywanu gan garcharor ddydd Sadwrn (12 Mehefin).

Cyn yr ymosodiad, roedd yr un carcharor wedi trywanu cyd-garcharor yng ngharchar y Berwyn yn Wrecsam.

Roedd hefyd wedi bygwth ymosod ar swyddog carchar benywaidd.

Cafodd ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Garchar Abertawe ond ni chafodd ei wahanu na’i roi mewn carchar Categori A.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai, “Nid ydym yn goddef ymosodiadau ar ein staff gweithgar a byddwn yn pwyso am y gosb gryfaf bosibl.”

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol gyfarfod â llywodraethwr y carchar a pharhau i gysylltu ag undeb Cymdeithas y Swyddogion Carchardai.