Mae awgrymiadau na fydd y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwnedd (JCVI) yn argymell y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig frechu pobol dan 18 oed.

Dywedodd Liz Truss, Ysgrifennydd Masnach y Deyrnas Unedig, wrth BBC Breakfast, y bydden nhw’n edrych yn fanwl ar argymhellion y Cydbwyllgor.

“Dw i ar ddeall nad ydyn nhw’n argymell brechu pobol dan 18 oed, ac mi fyddwn ni’n dweud mwy am hynny pan ddaw’r amser,” meddai Liz Truss.

Yn y cyfamser, mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithas Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud nad ydyn nhw wedi gwneud penderfyniad ynghylch brechu plant dros 12 oed.

Codi cwestiynau

Mae rheoleiddwyr meddyginiaethau’r Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo i frechlyn Pfizer/BioNTech gael ei defnyddio ymysg plant dros 12 oed, ac mae arbenigwyr wedi bod yn trafod y mater.

Yn ôl rhai, dylai’r Deyrnas Unedig ddilyn yr Unol Daleithiau ac Israel a chychwyn brechu plant er mwyn atal clystyrau mewn ysgolion.

Ar y llaw arall, mae eraill wedi cwestiynu pa mor foesol yw cynnig brechlynnau i blant pan nad yw’n cynnig llawer o fudd clinigol.

Mae cwestiynau hefyd wedi’u codi ynghylch gwledydd cyfoethocach yn brechu pobol sydd â risg isel o fynd yn ddifrifol wael â Covid, tra bod gwledydd ag incwm is heb frechu aelodau bregus yn eu poblogaethau eto.

“Materion moesol”

Dywedodd un aelod o’r grŵp cynghori meddygol Sage, fod y tebygolrwydd i blant farw o Covid-19 yn “un mewn miliwn”.

“Mae’r risg o farw yn un mewn miliwn. Dyw hwnna ddim yn ystadegyn wedi’i dynnu o’r awyr, mae’n risg mesuradwy,” meddai Calum Semple, sy’n athro ym Mhrifysgol Lerpwl.

“Rydyn ni’n gwybod o roi’r don gyntaf o’r coronafeirws a’r ail gyda’i gilydd fod 12 o farwolaethau ymhlith plant – yn Lloegr, yr Alban, Cymru ac Iwerddon, efo’i gilydd – ac mae’n brin oherwydd mae yna tua 13 i 14 miliwn o blant yn y Deyrnas Unedig.

“Felly rydyn ni’n siarad am frechu plant i amddiffyn iechyd cyhoeddus, a lleihau lledaeniad yn bennaf.

“Mae’n cael ei dderbyn fod plant yn eu harddegau, sy’n fiolegol debycach i oedolion, yn fwy tebygol o’i ledaenu,” ychwanegodd.

“Dw i’n tueddu tuag at y (ddadl) i beidio brechu plant, dim ond oherwydd y materion moesol, a’r angen i frechu pobol hŷn.”

Blaenoriaethu pobol fregus y byd

“Fy marn i yw y dylen ni ddefnyddio’r dosys hynny, ar y funud, ar gyfer pobol sydd mewn risg mwy o salwch difrifol mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig,” meddai’r Athro Syr Andrew Pollard wrth Radio 4 ddoe (15 Mehefin).

Wrth ystyried pryd y dylid brechu plant, dywedodd Andrew Pollard y dylid gwneud hynny ar ôl i bobol “mwyaf bregus y byd gael eu hamddiffyn”.

“Moesol anghywir”: beirniadu cynllun i gynnig y brechlyn i blant mewn gwledydd cyfoethog

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Deyrnas Unedig sicrhau digon o frechlynnau Pfizer er mwyn brechu plant dros 12 oed, pe bai hynny’n cael ei gymeradwyo