Mae cynnig brechlyn Covid-19 i blant mewn gwledydd cyfoethog cyn grwpiau o bobol mewn gwledydd tlotach sydd yn wynebu risg sylweddol yn “foesol anghywir”, yn ôl cyfarwyddwr Grŵp Brechlyn Rhydychen.
Dywed yr Athro Andrew Pollard, a wnaeth helpu i ddatblygu brechlyn Astra Zeneca, fod yr annhegwch byd-eang i’w “weld yn glir”.
Daw ei sylwadau ar ôl i’r Deyrnas Unedig sicrhau digon o frechlynnau Pfizer er mwyn brechu plant dros 12 oed, pe bai hynny’n cael ei gymeradwyo.
Ond, dywed Andrew Pollard fod yna’r “nesaf peth i ddim” perygl i blant farw neu fynd yn ddifrifol wael yn sgil Covid-19.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud mai megis dechrau brechu’r bobol sydd yn wynebu’r perygl mwyaf mae rhai gwledydd.
“Cwbl anghywir”
Yn ystod cyfarfod o’r Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar y Coronafeirws, dywedodd Andrew Pollard, “pan ydych chi’n edrych ar nod cyffredinol rhaglenni brechu dros y byd yn ystod pandemig, stopio pobol rhag marw yw hynny”.
“Ac rydyn ni’n gwybod pwy yw’r bobol hynny – y rhai dros 50 oed, y rhai hynny sydd gan gyflyrau iechyd, ac i ryw raddau gweithwyr iechyd, felly’r rhain yw’r grwpiau blaenoriaeth,” meddai wedyn.
“Rydyn ni mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle mae yna nifer o bobol heb eu brechu yn y byd, a dim digon o ddosau i bawb eto.
“Ond mae yna nifer o bobol heb eu brechu yn y byd, tra bod pobol sydd mewn perygl ofnadwy o isel yn cael eu brechu, gan gynnwys plant, sydd mewn nesaf peth i ddim perygl o ddatblygu salwch difrifol neu farw.
“Mae’r annhegwch yn hollol glir i’w weld ar y funud mewn ffordd ofnadwy o bryderus wrth i ni weld lluniau o Dde Affrica ar y teledu yn dangos yr amgylchiadau erchyll – mae cydweithwyr yn wynebu’r amgylchiadau mwyaf dychrynllyd, dydyn nhw ddim yn gweithio mewn sefyllfa lle mae Gwasanaeth Iechyd i’w cefnogi nhw.
“Yn foesol, mae’n teimlo’n gwbl anghywir i fod mewn sefyllfa lle rydyn ni’n caniatáu i hynny ddigwydd tra, mewn nifer o wledydd, mae brechlynnau yn cael eu rhoi i boblogaethau iau lle mae’r perygl yn isel iawn, iawn.”
Ychwanegodd fod peidio â chael tegwch o gwmpas y byd yn peryglu’r sefyllfa.
“Os oes gennym ni ffordd well o ddosbarthu’r brechlynnau, yna mae yna lai o bwysau ynghylch amrywiolion sy’n peri pryder,” meddai.
Mae Prifysgol Rhydychen ac AstraZeneca wedi ymrwymo i ddosbarthu’r brechlyn ar sail ‘nid-er-elw’ dros y byd, ac mewn gwledydd tlotach.
Ddydd Llun (Mai 17), dywedodd Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, fod y Deyrnas Unedig wedi sicrhau digon o frechlynnau Pfizer er mwyn eu cynnig i blant dros 12 oed, pe bai hynny’n cael ei gymeradwyo.
Mae’r brechlyn eisoes wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer plant dros 12 oed yn yr Unol Daleithiau.
Dywed yr Athro Andro Pollard y byddai cynnig y brechlyn i bobol iau yn “gwneud synnwyr” o edrych ar y Deyrnas Unedig yn unig, ond nid mewn argyfwng byd eang.
“Bwlch sylweddol”
Yn ôl yr Athro Kate O’Brien o Sefydliad Iechyd y Byd, mae yna “fwlch sylweddol o ran tegwch: rhwng gwledydd ag incwm uchel a rhai ag incwm isel.
“Mae rhai gwledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, yn mynd ymhell tu hwnt i’r grwpiau blaenoriaeth uchel,” meddai.
“Mae gennym ni fwlch sylweddol rhwng yr hyn mae rhai gwledydd yn ei gyrraedd yn nhermau mynediad ac imiwneiddio tra, ar yr un pryd, mae gwledydd eraill yn dechrau brechu’r grwpiau blaenoriaeth uchaf.
“Mae hyn yn achosi risg i bob gwlad wrth ystyried amrywiolion sydd o bryder.
“Ac o safbwynt economaidd, rydyn ni mor rhyng-gysylltiol o amgylch y byd fel bod adfer economi ddomestig yn ddibynnol ar adfer byd-eang hefyd.”