Fe fydd annibyniaeth i Gatalwnia yn uchel ar restr flaenoriaethau llywodraeth newydd Catalwnia, ond mae’n ymddangos y bydd angen i’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth drafod cryn dipyn ar y ffordd ymlaen.
Mae Esquerra a Junts per Catalunya eisoes wedi dod i gytundeb i ffurfio llywodraeth, gyda Pere Aragonès yn arlywydd, ac fe fydd y llywodraeth hefyd yn cael cefnogaeth plaid CUP.
Mae’r tair plaid wedi bod yn cydweithio ers 2015 ar strategaethau i sicrhau annibyniaeth, ac fe ddaeth y penllanw yn 2017 pan gafodd refferendwm ei gynnal nad oedd yn cael ei gydnabod gan Sbaen.
Ac eithrio rhywfaint o drafod â Llywodraeth Sbaen a ddaeth i ben yn sgil Covid-19, doedd fawr o ddatblygiad wedi bod o dan y llywodraeth flaenorol a’r arweinydd Quim Torra y tu hwnt i hynny.
Ac er bod Esquerra a Junts per Catalunya wedi anghydweld yn y gorffennol, mae’n ymddangos eu bod nhw’n barod i roi’r gwahaniaethau hynny i’r naill ochr a chreu strategaeth newydd ar y cyd.
Beth yw’r strategaeth?
Mae’r pleidiau’n gytûn mai “dim ond refferendwm hunanlywodraeth wedi’i gytuno â Sbaen all ddisodli mandad democrataidd Hydref 1 [y refferendwm a gafodd ei wrthod gan Sbaen]”.
Er nad yw Junts per Catalunya yn argyhoeddedig y bydd modd dwyn perswâd ar Lywodraeth Sbaen fod angen cynnal refferendwm, mae hwn yn un o brif amcanion y cytundeb ond does dim sôn yn y cytundeb am gynnal refferendwm arall fel yr un yn 2017.
Maen nhw hefyd am weld y llysoedd yn rhoi’r gorau i erlyn pobol am eu rhan yn y refferendwm, gan gynnwys y rhai a gafodd eu carcharu a’r rheiny aeth yn alltud.
Mae dymuniad Esquerra i gynnal trafodaethau â Llywodraeth Sbaen yn dal yn y cytundeb, ac fe fydd y llywodraeth newydd yn cydnabod “proses negodi” pan fydd wedi’i sefydlu’n derfynol, a bydd pwyllgor seneddol yn cael ei sefydlu i’r perwyl hwn gyda’r llywodraeth yn cydnabod mai dyma’r ffordd orau ymlaen.
Ond does dim amserlen ar gyfer y trafodaethau a does dim ateb pe bai hyn yn methu ac eithrio sôn am y posibilrwydd o “wrthdaro” â Llywodraeth Sbaen.
Bydd y pleidiau hefyd yn ceisio mwy o gyhoeddusrwydd a chefnogaeth ymhlith gwledydd tramor er mwyn cael cydnabyddiaeth ryngwladol i’r ymgyrch tros annibyniaeth.
Eu gobaith yw “adeiladu barn gyhoeddus ffafriol” i’r syniad o annibyniaeth ac maen nhw’n ystyried y posibilrwydd o “ymyrraeth gan sefydliadau Ewropeaidd a rhyngwladol” er mwyn cyflawni’r nod o gynnal refferendwm.
Byddan nhw hefyd yn cydlynu amddiffyniad y rhai sydd wedi’u herlyn am eu rhan yn y refferendwm yn 2017, a hynny wrth i’r rhai sydd eisoes wedi’u herlyn baratoi i fynd â’u hachos i Lys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae’n ymddangos bellach na fydd Cyngor y Weriniaeth, grŵp a gafodd ei sefydlu gan Carles Puigdemont, yn goruchwylio’r llywodraeth wrth iddi geisio annibyniaeth – roedd hyn yn destun anghydweld rhwng Esquerra a Junts per Catalunya cyn iddyn nhw gytuno i ffurfio llywodraeth.
Yn hytrach, fe fydd y tair plaid yn ceisio cydweithio ar y ffordd ymlaen heb ymyrryd yn uniongyrchol yng ngwaith y llywodraeth ar fater annibyniaeth.
Does dim sôn am amserlen i wneud yr holl waith yma, ond fe fydd angen sicrhau bod gan y llywodraeth gefnogaeth plaid CUP drwy gydol y tymor seneddol yma er mwyn sicrhau bod mwyafrif o blaid annibyniaeth yn y senedd.
Mae cytundeb rhwng CUP ac Esquerra yn crybwyll 2023 fel adeg briodol i adolygu’r trafodaethau â Llywodraeth Sbaen, ond mae maniffesto CUP yn crybwyll 2025 fel blwyddyn bosib ar gyfer refferendwm.
Ond fe allai hyn oll newid erbyn canol y tymor seneddol presennol, pan fydd pleidlais o hyder yn yr arlywydd.