Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y dylai’r tymor seneddol hwn “ganolbwyntio’n llwyr ar adferiad Cymru wedi’r coronafeirws, nid ar gynyddu maint y Senedd”.
Daw sylwadau Andrew RT Davies ar ôl i Mark Drakeford ddweud wrth BBC Cymru ei fod yn cefnogi’r galwadau i ehangu maint y Senedd.
Llynedd daeth aelodau’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar un o bwyllgorau’r Senedd i’r canlyniad y dylid cael hyd at 90 o aelodau, yn hytrach na’r 60 sydd yno ar hyn o bryd.
Plaid Cymru oedd yr unig un o’r prif bleidiau i gefnogi adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn swyddogol ar y pryd.
Roedd yr adroddiad hefyd yn galw am ddefnyddio dull mwy cyfrannol yn etholiad y Senedd yn 2026, gan y byddai’r cynnydd mewn aelodau yn gofyn am addasu’r system etholiadol.
“Camgymeriad mawr”
Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r prif weinidog “wedi gwneud camgymeriad mawr” wrth honni bod yna frwdfrydedd cynyddol ymhlith Aelodau o’r Senedd.
“Yn anffodus, mae’r prif weinidog wedi gwneud camgymeriad mawr gan mai dim ond y Blaid Lafur a Phlaid Cymru sydd ag awydd creu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y dylai’r tymor seneddol hwn ganolbwyntio’n llwyr ar adferiad Cymru wedi’r coronafeirws, nid cynyddu maint y Senedd.
“Mae’n anffodus, dim ond cwpl o wythnosau ers y diwrnod pleidleisio, fod hyn yn ymddangos ar yr agenda wleidyddol pan ddylai’r egni i gyd fod wedi ei gyfeirio at arbed swyddi, mynd i’r afael â rhestrau aros a sicrhau bod ein plant yn dal i fyny ar eu haddysg a gafodd ei cholli dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Angen mynd ymhellach
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n rhaid i ddiwygio’r Senedd wneud mwy na chynyddu nifer yr aelodau yn unig.
“Mae ein system wleidyddol angen ei thrwsio, ni fydd newid un agwedd ar ei phen ei hun yn ei thrwsio, ac mae angen i ni edrych ar yr holl system,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn barod i weithio gyda phleidiau eraill i gryfhau a gwella ein Senedd gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd o 20 neu 30 yn unol ag Adolygiad McAllister yn 2017.
“Dylai’r opsiwn hwn gael ei wneud yn gost-niwtral oherwydd y gostyngiad arfaethedig yn nifer aelodau seneddol San Steffan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Byddai cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd, wrth ddarparu mwy o graffu a lleisiau, yn mynd rywfaint o’r ffordd tuag at drwsio a chryfhau ein system wleidyddol.
“Dylai unrhyw newid i nifer yr Aelodau hefyd fynd law yn llaw â chyflwyno system bleidleisio gyfrannol ar gyfer etholiadau’r Senedd i sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif, a bod pob aelod yn cael ei ethol gan fwyafrif y pleidleiswyr.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld mwy o ddatganoli ariannol i Gymru, ynghyd â datganoli Cyfiawnder, a fyddai’n caniatáu i ni gael gwared ar y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru hefyd.”
“Brwdfrydedd cynyddol”
Dywedodd Mark Drakeford wrth BBC Cymru fod yna “frwdfrydedd cynyddol” dros gael Llywodraeth yng Nghymru “sy’n gymwys i gyflawni ei chyfrifoldebau”.
Byddai i fyny i’r Blaid Lafur “gymryd barn”, meddai Mark Drakeford, ond dywedodd ei fod e’n “credu bod yna deimlad ar draws y pleidiau yn y Senedd fod angen ymrafael â’r mater anodd hwn o wneud y Senedd yn addas ar gyfer y cyfrifoldebau y mae bellach yn eu cyflawni”.
“Mae’n gorff gwahanol iawn i’r un a ffurfiwyd ym 1999,” meddai, gan gyfeirio at y diffyg pwerau deddfu cynradd a chodi treth oedd gan Gynulliad Cymru bryd hynny.
“Dywedodd Ivor Richard yn ei adroddiad yn 2003 fod angen mwy o aelodau ar y Senedd i wneud y gwaith y gofynnir iddi ei wneud dros Gymru.
“Nawr rwy’n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod ymarferoldeb hynny yn cael ei ddeall yn iawn ac, os oes momentwm ar ei gyfer, nid mater i’r Llywodraeth yw bwrw ymlaen â hyn, ond mater i’r Senedd ei hun ydyw.”
Dywedodd Mark Drakeford fod “brwdfrydedd ymhlith nifer cynyddol o aelodau” dros newid, ac ychwanegodd ei fod yn rhannu’r brwdfrydedd.
“Rwyf am weld Senedd sy’n gymwys i gyflawni ei chyfrifoldebau,” meddai.
Roedd yr adroddiad gan y Pwyllgor ar Ddiwygio llynedd yn dweud bod angen sefydlu “consensws ar y cynigion diwygio” yn “gynnar iawn” yn nhymor y Senedd newydd, os oedd y newidiadau am gael eu cyflwyno erbyn etholiad 2026.
Yn ôl y Prif Weinidog, mae’r siawns o gael Senedd fwy erbyn hynny “wedi gwella o ganlyniad i’r etholiad, a’i fod yn fater nid yn unig o niferoedd ond mae’n fater o ddull etholiadol hefyd, sy’n fater dyrys gyda sawl barn”.
“Felly mae yna faterion ymarferol sylweddol i weithio drwyddynt o hyd. Rwy’n gobeithio y bydd y Senedd yn bwrw ymlaen ag ef,” meddai wedyn.