Mae ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yng Nghaerdydd wedi’i chau i’r rhan fwyaf o’i disgyblion yn dilyn degau o achosion o Covid-19.

Bydd Ysgol Gynradd Millbank yn agor ei drysau eto ddydd Llun (Mai 24).

Fe fu 28 o achosion – 23 aelod o staff a phump o ddisgyblion – yr ysgol ac, mewn llythyr, mae’r pennaeth Karen Brown wedi dweud wrth rieni ei bod hi’n ymwybodol nad yw rhai pobol wedi bod yn cadw at ganllawiau’r Llywodraeth.

Mae rhai disgyblion heb symptomau wedi cael profion Covid-19 ac mae disgyblion dosbarth Derbyn a Blwyddyn 2 yn cael eu profi ar hyn o bryd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r achosion yn ymwneud ag amrywiolyn Caint.

‘Hunanynysu’

“Rydym yn ymwybodol nad yw rhai teuluoedd wedi dilyn y rheolau hunanynysu,” meddai’r pennaeth yn ei llythyr at rieni.

“Cofiwch, os gwelwch yn dda, fod hwn yn ofyniad cyfreithiol, ac yn [ymwneud â] iechyd a diogelwch y plant, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

“Mae 21 aelod o staff hefyd wedi bod yn hunanynysu, felly rydyn ni’n gwybod pa mor anodd all bywyd teuluol fod pan na all un person adael y tŷ, ond mae’r rheolau yma’n reolau pwysig er lles pawb.”

Mae’r ysgol wedi dweud wrth y disgyblion am hunanynysu, tra bod disgyblion Blynyddoedd 3-6 wedi cael cynnig profion, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n awyddus i brofi’r holl ddisgyblion o’r dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 2.

Bydd staff olrhain yn cysylltu â theuluoedd i drefnu profion.

Mae disgwyl i’r disgyblion hunanynysu hyd nes eu bod nhw wedi cael profion negyddol, a bydd gofyn i unrhyw ddisgybl sy’n profi’n bositif hunanynysu am ddeng niwrnod.

Gall disgyblion Blynyddoedd 3-6 sydd wedi cael prawf negyddol eisoes ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf.

Mae’r dosbarth meithrin ar agor o hyd.