Mae pensiynwr wedi beicio pum milltir o amgylch ei bentref ar ei ben-blwydd yn 90 er mwyn cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd yn lleol.

Dewisodd Dewi Griffiths godi arian at ward plant Cilgerran yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin oherwydd bod ganddo 20 o wyrion a wyresau, a 39 o or-wyrion a gor-wyresau.

Gan feicio o amgylch Sanclêr, fe wnaeth e lwyddo i godi cyfanswm o £2,500.

“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod yn 90 oed yn gallu beicio o gwbl, heb sôn am feicio pum milltir, ac mae gallu casglu arian a rhoi i Ward Cilgerran yn gwneud y cyfan yn werthchweil,” meddai Dewi Griffiths.

Dywedodd ei ferch ei fod e’n benderfynol o godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Fe wnaethon ni agor cyfrif Go Fund Me yr oeddem ni fel teulu yn ei rannu ar Facebook gan adael i bawb wybod mai dyma beth roedd fy nhad eisiau ei wneud ar gyfer ei ben-blwydd yn 90 oed,” meddai Olwena.

“Fe wnaethon ni hefyd dderbyn llawer o roddion gan y gymuned a theulu a ffrindiau ar lafar gwlad. Mae’n hysbys bod Dad allan ar ei feic o amgylch y pentref. Roedd yn cael ei stopio drwy’r amser ac yn rhoi rhoddion pan oedd yn cerdded o amgylch y pentref yn unig.

“Fe wnaethon ni hyd yn oed dderbyn rhoddion o gyn belled i ffwrdd â Grand Cayman lle rydw i’n byw fel arfer.”

“Ysbrydoli”

“Rydym yn falch iawn o dderbyn y rhodd wych hon gan Mr Dewi Griffiths,” meddai Bethan Osmundsen, Uwch Brif Nyrs ward Cilgerran gan ddiolch am yr arian.

“Cawn ein hysbrydoli gan ei ymdrechion a byddwn yn defnyddio’r arian a godwyd i brynu mwy o welyau rhieni i alluogi ein rhieni i fod yn gyffyrddus yn ystod derbyniadau gyda’u plant.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y Bwrdd Iechyd, fod pawb llawn edmygedd tuag at gyflawniad Dewi Griffiths.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn,” meddai.